Dyn ifanc fu farw ym Magaluf 'wedi disgyn dros wal'

  • Cyhoeddwyd
Thomas ChannonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Thomas Channon (chwith) gyda'i frodyr Harry a James

Mae gweithiwr mewn gwesty ar ynys Majorca yn Sbaen wedi dweud fod dyn o Fro Morgannwg fu farw yno wythnos diwethaf wedi marw ar ôl syrthio dros wal isel.

Bu farw Thomas Channon, 18 oed, o'r Rhws ar dir safle Eden Roc ym Magaluf ddydd Iau diwethaf.

Daeth y garddwr oedd yn gweithio yno o hyd i'w gorff, ond dyw hi ddim yn glir sut y syrthiodd dros y wal.

Mae ei rieni wedi disgrifio'u mab fel dyn "addfwyn, caredig a hael", gan ddweud eu bod wedi eu "llorio" yn dilyn ei farwolaeth.

Disgrifiad,

Yr olygfa ar safle Eden Roc ym Magaluf, lle bu farw Thomas Channon

Dywedodd y gweithiwr ei bod hi'n ymddangos fod Thomas Channon wedi syrthio dros wal isel sy'n amgylchynu tu flaen safle'r gwesty - wal sy'n cyrraedd uchder pen-glin.

Yr ochr arall i'r wal, mae'r ddaear 70tr (21m) yn is.

Thomas Channon yw'r trydydd ymwelydd o Brydain i farw yng ngwesty Eden Roc eleni.

Yn dilyn y farwolaeth, mae cyngor y dref wedi cynnal cyfarfod brys.

'Mab, brawd ac ŵyr perffaith'

Mewn datganiad, dywedodd rhieni Thomas, John a Ceri Channon, eu bod wedi eu "llorio" ac yn "ceisio dod i dermau gyda'r sefyllfa ofnadwy".

"Roedd yn ddyn ifanc addfwyn, caredig a hael," meddai'r datganiad.

"Roedd yn fab, brawd ac ŵyr perffaith a bydd colled ar ei ôl.

"Yn ystod y cyfnod anodd yma, rydyn ni'n gofyn am breifatrwydd i geisio dod i dermau gyda cholled fydd byth yn ein gadael."

Ychwanegodd athrawon Thomas ei fod yn cael ei barchu a'i garu yn yr ysgol, ac mae llyfr coffa wedi agor iddo.

Disgrifiad o’r llun,

Mae canhwyllau wedi eu cynnau er cof am Thomas Channon yn Eglwys Sant Pedr yn y Rhws

Roedd Mr Channon yn Sbaen yn dathlu diwedd ei arholiadau Safon Uwch.

Roedd yn aros yng ngwesty Universal Hotel Florida ac mae heddlu Sbaen yn credu iddo grwydro i mewn i'r gwesty arall cyn disgyn dros 20 metr yn oriau mân bore Iau.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan y garddwr yn ddiweddarach.

'Wal yn lot rhy isel'

Dywedodd mam un o'r grŵp oedd ar wyliau gyda Mr Channon, oedd am aros yn ddienw: "Aethon ni i le ddisgynnodd Thomas ac mae'r wal yn lot rhy isel. Mae'n cyrraedd pen-glin rhywun.

"Mae'n edrych fel bod lot o goed a llwyni ar ôl y wal sy'n rhoi'r argraff bod gardd yno, ond mewn gwirionedd mae'n 70 troedfedd i'r ddaear."

Ym mis Mehefin bu farw Tom Hughes, 20 o Wrecsam, ar ôl disgyn 20 metr yn y gwesty.

Mae cwest wedi ei agor i'w farwolaeth ond eto i benderfynu ar achos ei farwolaeth.

Ym mis Ebrill fe wnaeth merch o'r Alban, Natalie Cormack, hefyd farw ar ôl disgyn o'r seithfed llawr.

Y gred yw ei bod wedi disgyn wrth ddringo i'w fflat o ystafell gyfagos.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl ymwelydd wedi marw yng ngwesty Eden Roc eleni

Wedi'r marwolaethau, mae grŵp Abta wedi annog pobl sydd ar eu gwyliau i gymryd gofal os ar falconi.

Mae'r Swyddfa Dramor hefyd wedi rhybuddio twristiaid i gymryd gofal.

Yn dilyn y farwolaeth ddiweddaraf, daeth y maer lleol, swyddogion twristiaeth, yr heddlu a chynghorwyr tref i gyfarfod arbennig i drafod y digwyddiad.