Cyffro wedi'r oedfa gydag ymweliad y Tour of Britain
Fe wnaeth cymal cyntaf Tour of Britain ddenu miloedd o bobl i'r strydoedd wrth iddyn nhw geisio gweld rhai o seiclwyr gorau'r byd yn gwibio heibio.
Dyma oedd y tro cyntaf i'r ras ymweld â Sir Gaerfyrddin ac roedd yna reswm arbennig arall i wylio eleni, gan fod y Cymro, Geraint Thomas yn cymryd rhan mewn ras gystadleuol yng Nghymru am y tro cyntaf ers sicrhau lle i'w hun yn y llyfrau hanes trwy ennill y Tour de France.
Gan fod llwybr cymal agoriadol Taith Prydain yn mynd heibio Capel y Priordy yng Nghaerfyrddin, fe fanteisiodd yr aelodau ar y cyfle i fwynhau'r achlysur wedi'r oedfa.