Thomas yn cystadlu yn y Tour of Britain yn ne Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd yna filoedd o bobl ar hyd llwybr cymal agoriadol y Tour of Britain ddydd Sul wrth i Geraint Thomas gystadlu yng Nghymru am y tro cyntaf fel pencampwr y Tour de France.
Fe gychwynnodd y ras wyth cymal, 109 milltir o hyd am 11:00 ym Mharc Gwledig Pen-bre - y tro cyntaf i ras feicio broffesiynol fwyaf Prydain ymweld â Sir Gaerfyrddin.
'Mas wrth y miloedd'
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y cynghorydd Alun Lenny: "Sai'n cofio diwrnod fel hyn. Daeth y bobol mas wrth y miloedd o Benbre trwy Gydweli i Gaerfyrddin, ac yna lan Dyffryn Tywi i Lanymddyfri.
"Milltiroedd o faneri'r ddraig i neud yn siŵr fod pawb yn gwybod taw cymal Cymru o'r ras oedd hwn. "
Y seiclwr o'r Almaen, Andre Grepeil, oedd enillydd y cymal cyntaf a ddaeth i ben yng Nghasnewydd tua 15:20.
Fe groesodd Thomas y llinell derfyn yn y 77fed safle. Roedd ei cyd-seiclwr o Team Sky, Chris Froome hefyd yn cymryd rhan.
Fe wnaeth Thomas a Froome gynhesu ar gyfer y ras ddydd Sadwrn trwy hyfforddi gyda'u cyd aelodau Team Sky a tua 175 o blant yn Maindy, Caerdydd, lle wnaeth Thomas ddechrau seiclo gyda'r clwb lleol pan yn blentyn.
Bu'n rhaid cau rhannau o'r ffordd a ffyrdd cyfagos am gyfnodau wrth i'r ras fynd heibio.
Roedd yna gyngor i'r cyhoedd gyrraedd mannau gwylio penodol o leiaf awr a hanner cyn bod disgwyl i'r seiclwyr gyrraedd.
Daeth y cymal i ben y tu allan i gampws Prifysgol De Cymru ar Usk Way.
Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin mai dyma oedd y digwyddiad chwaraeon mwyaf erioed i gael ei gynnal gan yr awdurdod, a bod disgwyl i'r achlysur roi hwb economaidd o £4m i economi de Cymru.
Yn ôl arweinydd y cyngor, Emlyn Dole roedd "yn gyfle gwych i Sir Gaerfyrddin serennu ar lefel fyd-eang".
Ychwanegodd: "Rwyf wedi treulio'r bore nid yn unig yn mwynhau'r ras, ond yn siarad â phobl sydd wedi cael argraff hynod dda o'r hyn y gall Sir Gaerfyrddin ei gynnig wrth gynnal digwyddiadau chwaraeon pwysig.
"Rwy'n sicr y bydd y ras heddiw yn golygu y bydd llawer mwy o gyfleoedd cyffrous i ni ddod ag athletwyr gorau'r byd yma i gystadlu ar ein stepen drws."
Roedd y trefnwyr wedi rhybuddio'r cyhoedd bod "tynnu hunluniau'n hwyl" ond bod "troi eich cefn ar y ras byth yn syniad da".
Fe wnaethon nhw hefyd roi cyngor i bobl wynebu'r "beicwyr a chonfoi'r ras bob amser" ac i gofio "mai eu ras nhw yw hon.
"Peidiwch â rhwystro'u llwybr, rhedeg ochr yn ochr â nhw, nac amharu ar eu cynnydd."
Mae rhan o'r ras wedi ei chynnal rywle yng Nghymru bob blwyddyn ers wyth mlynedd.
Yng Nghaerdydd 'roedd cymal olaf ras y llynedd ac Ynys Môn oedd lleoliad cam agoriadol Tour of Britain 2015.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2018