'Ar y ffens' ynghylch cael gwared ar dollau Pont Hafren

Am y tro cyntaf ers agor Pont Hafren yn 1966 fydd teithwyr o ddydd Llun ymlaen ddim yn gorfod talu am groesi'r pontydd.

Yn ôl rhai sy'n byw gerllaw mae yna fanteision ond mae yna hefyd ofnau y bydd mwy o dagfeydd traffig yn Nhwnel Bryn-glas a mwy o wasgfa ar wasanaethau.

Dywedodd Gwenllian Frost, sy'n byw yng Nghas-gwent, ei bod hi'n edrych mlaen at arbed hyd at £250 y mis ar gostau teithio i'r gwaith ond bod agweddau eraill yn ei phoeni.