Y tollau ar Bont Hafren wedi dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Pont HafrenFfynhonnell y llun, Allen Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gyrwyr yn talu dau swllt a chwe cheiniog bob ffordd pan agorodd Pont Hafren

Does dim rhaid talu bellach i groesi i dde Cymru ar draffordd yr M4 wrth i'r tollau i groesi Pont Hafren ddod i ben wedi 52 o flynyddoedd.

Gallai diddymu'r ffi, a oedd yn £5.60 i gar, arbed £1,400 i rai teithwyr.

Cafodd y bont gyntaf ei hagor gan Y Frenhines yn 1966 ac mae amcangyfrif bod 25 miliwn siwrne y flwyddyn wedi cael eu gwneud ar draws y ddwy bont.

Dydd Llun yw'r diwrnod cyntaf mewn hanes i deithwyr allu croesi ar draws afon Hafren am ddim.

Mae arbenigwyr yn darogan y bydd cael gwared â'r tollau yn rhoi hwb o £100m i economi Cymru ond mae 100 o staff gweinyddol a chasglwyr tollau wedi colli eu gwaith.

Cafodd y tollau ar y ddwy bont eu gostwng Ddydd Calan eleni wedi i'r ddwy bont gael eu trosglwyddo i ddwylo cyhoeddus.

Roedd y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones wedi galw am ddiddymu'r tollau ar 1 Ionawr 2018.

Ond fe ddywedodd yr Adran Drafnidiaeth y byddai'r ffÏoedd a fyddai'n cael eu casglu yn 2018 yn helpu i dalu am y broses o gael gwared â'r tollau ac hefyd yn talu am gostau cynnal a chadw.

Mwy o draffig?

Mae Llywodraeth y DU wedi mynegi pryderon y byddai cael gwared â'r tollau yn cynyddu'r traffig ac fe allai hynny arwain at oedi pellach ger Twneli Bryn-glas.

Ond mae diddymu'r tollau wedi cael croeso gan fusnesau.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Alun Cairns: "Mae cael gwared â'r tollau yn garreg filltir bwysig i economïau de Cymru a de-orllewin Lloegr ac yn symud y rhwystrau hanesyddol rhwng y cymunedau.

"Fe fydd hyn yn rhoi mwy o arian ym mhocedi cenedlaethau o bobl sydd wedi gorfod talu i groesi'r ffin ac fe fydd hynny yn golygu bod ganddynt fwy o arian i wario yn lleol."

'Pwysau ar wasnaethau'

Eisoes mae prisiau tai yng Nhas-gwent a Chil-y-coed wedi codi ers i'r cyhoeddiad gael ei wneud yn 2017 fod y tollau yn mynd i gael eu diddymu.

Ond mae yna ofnau na fydd ffyrdd lleol na gwasnaethau fel meddygon ac ysgolion yn gallu ymdopi gyda'r pwysau ychwanegol.

Disgrifiad,

Mae Gwenllian Frost 'ar y ffens' ynglŷn â chael gwared ar dollau Pont Hafren

Dywedodd Armand Watts, sy'n gynghorydd yn sir Fynwy: "Mae 'na gynlluniau i gael 1,000 yn fwy o dai yn ardal Cas-gwent ac y mae hynny siŵr o wneud gwahaniaeth i feddygfeydd, ysgolion a gwasanaethau hanfodol eraill.

"Yn ystod yr oriau brig mae'r ffyrdd yn brysur ac fe fydd cael 1,000 arall o geir yn achosi tagfeydd pellach - dyw mynd ar y trên i Fryste ddim yn opsiwn gan nad yw'n wasanaeth uniongyrchol.

"Gall fod yn fwy anodd hefyd i bobl yn yr ardal yma brynu tai - bydd rhaid cefnogi'r bobl sy'n byw yn lleol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynnal a chadw pontydd Hafren yn costio ar gyfartaledd £6m y flwyddyn

Ond fe fydd yn newid er gwell i'r sawl sy'n gweithio'n lleol.

Dywedodd Stuart Martin, sy'n ymgynghorydd recriwtio yng Nghil-y-coed: "Mae e'n 10% o godiad cyflog i rai gan na fydd rhaid iddyn nhw bellach dalu am groesi'r bont. Mewn dyddiau o lymder mae hynny'n rhywbeth i'w groesawu.

"Rwy' wedi cael 40% yn fwy o bobl yn dod ataf o Fryste i chwilio am waith yn ne Cymru. Mae cael gwared â'r tollau yn golygu marchnad mwy agored bob ochr i'r Hafren."

'Cau un pont dros dro'

Mae cerbydau'n cael teithio am ddim ers yn gynnar fore Llun a hynny ar lonydd dros dro ar gyflymder o 50mya.

Ond wrth i un pont M4 ailagor bydd un arall yn cau i gyfeiriad y gorllewin wrth i'r gwaith o dynnu y blychau tollau fynd yn ei flaen tan 07:00 fore Mercher.

Disgrifiad o’r llun,

Mae tollau wedi bod ar bont Hafren ers agor y bont gyntaf yn 1966

Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud ar y ddwy bont yn 2019 i gael traffordd dair lôn ar gyflymder o 70mya.

Bellach dim ond un ffordd doll sydd ar ôl yng Nghymru sef y Pont Cleddau yn sir Benfro ac fe fydd y doll ar y bont honno yn dod i ben ym mis Ebrill.