Pasio Cadwyn 'i'r genhedlaeth nesaf'
Ar ôl bron i hanner can mlynedd yn y busnes, mae cyfarwyddwyr cwmni crefftau Cadwyn wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ildio'r awenau.
Fe sefydlwyd y busnes gan yr ymgyrchwyr iaith adnabyddus Ffred a Meinir Ffransis ym 1973, a dechreuodd fasnachu flwyddyn yn ddiweddarach.
Bu'r cwmni yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2014.