Diwedd cyfnod i gwmni Cadwyn wrth i'r sylfaenwyr ffarwelio

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dolen newydd i gwmni Cymreig

Ar ôl dros 45 mlynedd yn y busnes, mae cyfarwyddwyr cwmni crefftau Cadwyn wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ildio'r awenau.

Fe sefydlwyd y busnes gan yr ymgyrchwyr iaith adnabyddus Ffred a Meinir Ffransis ym 1973, a dechreuodd fasnachu flwyddyn yn ddiweddarach.

Bu'r cwmni'n dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2014.

Yn ôl Meinir Ffransis, fe gafodd Ffred y syniad am y busnes tra'n treulio cyfnod yn y carchar wrth ymgyrchu dros sianel deledu Gymraeg.

"Pythefnos ar ôl i ni briodi yn '73, fe aeth Ffred i'r carchar am flwyddyn am 'neud cynllwyn i ddringo mast teledu fel rhan o'r ymgyrch ddarlledu.

"Yn y carchar, fe fuodd e'n creu cynlluniau yn ei feddwl am shwd i wneud bywoliaeth ar ôl dod mas o'r carchar a pharhau i weithredu gyda Chymdeithas yr Iaith."

Yn ôl Ffred, roedd ffurfio Cadwyn yn rhan o'r ymdrechion i hybu'r Gymraeg.

"Dwi'n meddwl roedd e'n rhan o'r chwyldro diwylliannol, ble roedd pobl eisiau gwneud popeth yn Gymraeg," meddai.

"Roedd pobl yn sefydlu cwmnïau recordio Cymraeg... roedden ni eisiau trefnu bod crefftau Cymru yn cael eu hybu, bod modd derbyn gwasanaeth anrhegion Cymraeg, llosgi enwau yn Gymraeg a rhoi negeseuon Cymraeg ar nwyddau.

"Fe ges i eitha' profiad llynedd yn Eisteddfod yr Urdd. Ni wedi cael mamau yn dod at ein stondin a dweud wrth eu merched bach eu bod nhw wedi cael un o'r breichledau yna pan oedden nhw'n fach.

"Fe gawson ni Nain yn dod draw i ddweud hynny am y tro cynta' eleni hefyd."

busnes
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni wedi meithrin perthynas gyda chynhyrchwyr crefftau masnach deg yn Affrica

Dros y degawadau, mae Cadwyn wedi meithrin perthynas agos gyda chynhyrchwyr crefftau masnach deg yng ngwledydd fel Moroco a Burkina Faso.

Fe fydd y ddau yn ymddeol o'u rôl fel cyfarwyddwyr ac yn trosglwyddo'r awenau at eu mab, Hedd Gwynfor a Sioned Elin, ond yn ôl Ffred byddan nhw ddim yn diflannu o'r busnes.

"Rhyw newid graddol bydd 'na. Yn yr amser byr, bydd dim rhyw ormod yn newid.

"Fe fydd siopau yn dal i weld fi'n troi fyny wrth y drws, mewn ffeiriau masnach, ond byddwn ni ddim yn cael ein talu am wneud hynny!"

Hedd Gwynfor a Sioned Elin
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfarwyddwyr newydd am wella eu presenoldeb ar y we

Yn ôl Sioned Elin, fe fydd Cadwyn yn rhoi pwyslais cynyddol ar fasnachu dros y we.

"Sai'n credu bod Hedd a fi yn awyddus i drafeilio rownd y wlad bob dydd o'r flwyddyn!

"Byddwn ni yn chwilio am gyfeiriadau eraill i werthu nwyddau Cymreig a masnach deg.

"Fe fyddwn ni yn canolbwyntio ar gynyddu'r busnes ar-lein, a gwella presenoldeb Cadwyn ar-lein a defnyddio mwy o'r cyfryngau cymdeithasol hefyd gobeithio."