Cyfarfod i drafod dyfodol Eglwys Sant Padarn Llanberis

Daeth tua 50 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Llanberis, Gwynedd, nos Fawrth i drafod pryderon y bydd yn rhaid cau Eglwys Sant Padarn yn y pentref gan fod to'r adeilad yn gollwng.

Fe allai'r gwaith o drwsio'r adeilad rhestredig Gradd II gostio tua £1m.

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi dweud y byddan nhw'n ceisio dod o hyd i fan addoli arall i'r gymuned os fydd angen.