Ystyried cau eglwys Llanberis oherwydd costau atgyweirio

  • Cyhoeddwyd
Eglwys Sant Padarn

Mae Esgobaeth Bangor yn cynnal ymgynghoriad ynglŷn â chau eglwys yn Llanberis.

Yn ôl yr esgobaeth byddai'n costio oddeutu miliwn o bunnau i atgyweirio'r Eglwys Sant Padarn.

Ar hyn o bryd, mae dŵr yn gollwng oherwydd "nam pensaernïol" pan gafodd yr adeilad ei godi dros 100 o flynyddoedd yn ôl.

Mae nifer o bobl leol wedi dweud eu bod yn siomedig.

Dywedodd y Parchedig Robert Townsend, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Esgobaeth Bangor: "Mae yna adroddiad wedi cael ei wneud a mae wedi canfod fod nam pensaernïol yn yr adeilad, sy'n golygu fod problemau dŵr di-ri' yn dod mewn i'r adeilad.

"I drwsio hynny, os ydi'n bosib - sy'n gwestiwn enfawr - 'da chi'n sbïo am bron i filiwn o bunnoedd, gan gynnwys to newydd.

"Does gynnon ni ddim miliwn o bunnoedd. Mae'n bosib fod yn eglwys heb adeilad."

'Calon Llanberis'

Ond mae nifer o bobl leol wedi mynegi siom am y penderfyniad i gynnal ymgynghoriad.

Dywedodd y cynghorydd tref Kevin Morris Jones ei bod hi'n "drist iawn i'r pentref os buasai'r eglwys yn cau.

"Os ydi adeilad fel hyn yn cau mae'n golled fawr i'r pentref, mae'n ganolbwynt y pentref. Mae o'n galon Llanberis."

Mae rhai pobl leol wedi gweld bai ar yr esgobaeth am adael i'r adeilad ddirywio.

Dywedodd Emlyn Baylis: "Brics a morter yw'r [eglwys] yn y diwedd ac mae'n rhaid rhesymu.

"Mae hi fod yn adeilad i bopeth a phawb. Dyna 'di bai'r eglwys dydyn nhw heb gynnal y lle. Bai'r eglwys ei hun ydi hyn."

Os yw'r ymgynghoriad yn llwyddo, gobaith yr esgobaeth yw cynnal gwasanaethau y tu hwnt i safle'r eglwys yn Llanberis.

Mae disgwyl cyfarfod cyhoeddus i drafod Eglwys St Padarn yn y flwyddyn newydd.