Llifogydd: 'Afon Conwy ar ei lefel uchaf ar gofnod'

Mae'r glaw trwm wedi arwain at lifogydd yn Llanrwst a sawl rhan arall o'r gogledd.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm ar gyfer rhannau helaeth o Gymru ddydd Sadwrn.

Mae'r rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym rhwng 04:00 a 21:00, tra bod y rhybudd am law wedi ei osod rhwng 00:00 a 23:59.

Dywedodd Deiniol Tegid, llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru fod yr Afon Conwy ar ei lefel uchaf ar gofnod, ond ei fod yn "obeithiol" y byddai amddiffynfeydd yn ddigonol.