Tywydd garw'n achosi llifogydd a thoriadau trydan

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Afon Conwy ar ei lefel uchaf ar gofnod", yn ôl llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae nifer o gartrefi wedi cael eu taro gan lifogydd ac mae cannoedd wedi colli'u cyflenwad trydan wrth i dywydd garw ledu ar draws Cymru.

Mae glaw trwm wedi syrthio yng nghanolbarth a gogledd Cymru ac mae nifer o rybuddion llifogydd mewn grym, dolen allanol - un ar gyfer rhannau o dref y Bala, gan gynnwys y ganolfan hamdden, Stryd Tegid a'r Stryd Fawr.

Bu'n rhaid achub tri pherson o fan yn Llanrwst, lle mae lefel Afon Conwy ar ei lefel uchaf ar gofnod, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ond mae'r sefyllfa wedi dechrau gwella ar draws Sir Conwy, medd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Mae'r gwasanaeth hefyd wedi treulio'r diwrnod yn delio â 40 adeilad sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd ym Mharc yr Eryr, Llanrwst.

Cafodd criw tân ac uned amgylcheddol arbenigol hefyd ei ddanfon i Fetws-y-Coed mewn ymateb i drafferthion yno.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith pwmpio dŵr yn Llanrwst ddydd Sadwrn

Dywedodd Deiniol Tegid, llefarydd ar ran (CNC) brynhawn Sadwrn ei fod yn "obeithiol" y byddai amddiffynfeydd yn ddigonol.

"Mae Afon Conwy ar ei lefel uchaf ar gofnod, felly, yndi, mae'n eithaf drwg yn Llanrwst ar y funud ac rydym yn gofyn i bobl fod yn ofalus iawn yn yr ardal honno ac i beidio mentro i ddŵr llifogydd ac i beidio cymryd unrhyw risgiau."

Yn gynharach ddydd Sadwrn, roedd dros 700 o adeiladau mewn rhannau o dde Cymru a Rhuthun, yn Sir Ddinbych heb gyflenwad trydan.

Mae nifer o ffyrdd hefyd wedi cau, dolen allanol, gan gynnwys rhannau o'r A470 - yn ardal Maenan rhwng Llanrwst a Betws-y Coed oherwydd llifogydd, ac ym Mallwyd, ger Dinas Mawddwy wedi tirlithriad.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm ar gyfer rhannau helaeth o Gymru ddydd Sadwrn.

Mae'r rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym rhwng 04:00 a 21:00, tra bod y rhybudd am law wedi ei osod rhwng 00:00 a 23:59.

Disgrifiad o’r llun,

Bu'r gwasanaethau brys yn ymateb i lifogydd ym Metws-y-coed fore Sadwrn

Roedd yna rybudd y byddai gwyntoedd o gyfeiriad y gorllewin yn effeithio ar fwyafrif y wlad, ac i'r sefyllfa fod ar ei waethaf mewn ardaloedd arfordirol.

Mae'r gwyntoedd ar eu cryfaf yn y de a'r gorllewin, gyda phosib iddynt gyrraedd 60-70mya mewn mannau.

Ardaloedd yn y canolbarth a'r gogledd sy'n debygol o brofi'r gwaethaf o'r glaw, gyda disgwyl i 40-70mm ddisgyn mewn rhai ardaloedd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Cyfoeth Naturiol Cymru | Natural Resources Wales

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Cyfoeth Naturiol Cymru | Natural Resources Wales
Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan North Wales Fire

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan North Wales Fire

Bu'n rhaid cau Pont Cleddau yn Sir Benfro i gerbydau uchel oherwydd y gwyntoedd cryfion.

Mae'r A525 wedi bod ar gau i gyfeiriad Rhuthun ar ôl i goeden ddisgyn ar y ffordd. Mae'r gwasanaethau brys yn delio â'r digwyddiad ac yn argymell i deithwyr ddefnyddio ffordd arall am y tro.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae pontydd Tal-y-cafn a Llanrwst hefyd ar gau oherwydd llifogydd yn yr ardal.

Mae'r B5109 rhwng Biwmares a Llangoed wedi bod ar gau i'r ddau gyfeiriad oherwydd llifogydd, ac roedd yr heddlu'n cynghori teithwyr i osgoi cyffyrdd 11 ac 12 yr A55, ar gyrion Bangor.

Ffynhonnell y llun, Llyr Serw ap Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Cerrig yr orsedd, Llanrwst brynhawn Sadwrn

Llanrwst fydd lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac mae rhai pryderon wedi codi ynglŷn â gallu'r safle i ddelio â'r tywydd garw.

Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses: "Dwi'n meddwl heddiw am bobl Llanrwst ac am ffermwyr yr ardal sydd yn delio gydag effeithiau'r llifogydd.

"Dyna'r flaenoriaeth am nawr - gall unrhyw ystyriaethau o ran yr Eisteddfod aros am y tro."