Angharad James: 'Parch mawr at dîm Gogledd Iwerddon'
Bydd tîm merched Cymru yn gobeithio parhau â'r dechrau da i'w hymgyrch i gyrraedd Euro 2021 yn erbyn Gogledd Iwerddon yng Nghasnewydd ddydd Mawrth.
Fe wnaeth Cymru drechu Ynysoedd Ffaroe o 6-0 yn eu gêm gyntaf yn y grŵp rhagbrofol ddydd Iau, tra bod Gogledd Iwerddon wedi cael eu trechu o'r un sgôr gan Norwy.
Mae Cymru'n gobeithio y bydd yr ymosodwr Helen Ward ar gael ar gyfer y gêm yn Rodney Parade wedi iddi fethu â dechrau yn Tórshavn oherwydd anaf i'w choes.
Er y canlyniad yn erbyn Norwy, dywedodd Angharad James bod gan garfan Cymru barch mawr tuag at "chwaraewyr gwych" Gogledd Iwerddon.
Dywedodd bod y garfan wedi canolbwyntio ar eu chwarae nhw, yn hytrach na'u gwrthwynebwyr, yn eu paratoadau.
Ychwanegodd bod y ffaith fod chwaraewyr y ddwy wlad yn chwarae gyda, ac yn erbyn ei gilydd, yn wythnosol yng nghynghreiriau Lloegr yn golygu eu bod yn "gwybod beth i'w ddisgwyl".
Bydd modd gwylio'r gêm rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yn fyw ar Cymru Fyw nos Fawrth, gyda'r gic gyntaf am 19:05.