Ynysoedd Ffaroe 0-6 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Uchafbwyntiau: Ynysoedd Ffaroe 0-6 Cymru

Fe sgoriodd Tash Harding hat-tric wrth i Gymru drechu Ynysoedd Ffaroe o 6-0 yn y gêm gyntaf yn eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2021.

Daeth y gôl gyntaf wedi tri munud yn unig wrth i Harding benio croesiad Rhiannon Roberts heibio'r golwr wrth y postyn cyntaf.

Dau funud yn ddiweddarach fe lwyddodd Emma Jones i ddyblu'r fantais wrth ergydio o ymyl y cwrt cosbi i gornel isaf y rhwyd.

Roedd Cymru yn llwyr reoli'r chwarae yn yr hanner cyntaf gyda Jones a Harding yn dod yn agos i ymestyn y fantais.

Cafodd Kayleigh Green y cyfle i'w gwneud hi'n 3-0 o'r smotyn wedi hanner awr, ond fe hedfanodd ergyd yr ymosodwr dros y trawst.

Disgrifiad,

Tash Harding yn edrych 'mlaen at yr her nesaf

Daeth ail gic o'r smotyn i'r ymwelwyr ar ôl 57 munud.

Cafodd Green ei llorio yn y cwrt cosbi a'r tro yma roedd Harding yn gywir o 12 llath i sgorio ei hail gôl ar y noson.

Daeth y bedwaredd ar ôl 67 munud wrth i amddiffynnwr Ynysoedd Ffaroe wyro'r bêl i'w rhwyd ei hun.

A gyda 10 munud yn weddill fe rwydodd Harding ei thrydedd o'r noson i'w gwneud hi'n 5-0.

Roberts goronodd y fuddugoliaeth yn ystod yr amser ychwanegwyd ar gyfer anafiadau gyda pheniad cywir i gornel uchaf y rhwyd o groesiad Gemma Evans.