Hunanladdiad mab yn 'gythraul o ergyd'
Mae nifer y dynion ifanc sy'n lladd eu hunain "yn epidemig" yn ôl un tad a gollodd ei fab lai na mis yn ôl.
Bu farw Gavin Pugh, oedd yn 27 oed ac yn wreiddiol o Borthmadog, yn ei gartref yng Nghaerdydd union bedair wythnos yn ôl.
Bydd cannoedd o bobl yn cymryd rhan mewn rasys ar strydoedd Caerdydd a Phorthmadog nos Fawrth - a hithau'n Ddiwrnod Rhyngwladol Atal Hunanladdiadau - i godi arian dros yr elusen Mind er cof amdano.
Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos cynnydd graddol yn nifer y dynion sy'n lladd eu hunain rhwng 2017 a 2016.
Wrth drafod yr ergyd o golli ei fab, dywed Arwel Pugh bod angen gwneud mwy i waredu'r stigma sy'n parhau i fod ynghylch iechyd meddwl.