Angen 'gweithredu ar frys i atal epidemig' hunanladdiadau

  • Cyhoeddwyd
Gavin PughFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gavin Pugh yn wreiddiol o Borthmadog ac wedi symud i fyw yng Nghaerdydd

Mae nifer y dynion sy'n lladd eu hunain pob blwyddyn yn "epidemig", yn ôl tad a gollodd ei fab i hunanladdiad bedair wythnos yn ôl.

Cafodd Gavin Pugh, oedd yn 27 oed ac yn wreiddiol o Borthmadog yng Ngwynedd, ei ganfod yn ei gartref yng Nghaerdydd bedair wythnos yn union i ddydd Mawrth.

Yn ôl ei dad Arwel Pugh, mae angen gwneud mwy i waredu'r stigma sy'n parhau i fod ynghylch iechyd meddwl.

Mae ffigyrau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod cynnydd graddol wedi bod yn nifer y dynion sy'n lladd eu hunain rhwng 2017 a 2016.

'Andros o sioc'

"Roedd o'n gythraul o ergyd. Ro'n i'n gwybod ei fod o dipyn bach dan y don," meddai Mr Pugh.

"Doedd o ddim fo ei hun. Ond fuodd o adra'r penwythnos cyn iddo ddigwydd ac roedd o llawn ei hwyliau.

"Peth diwethaf ddywedodd o wrth adael oedd 'welai chi mewn pythefnos'.

"Doedd o byth yn sôn am y byd a'r betws ond roeddwn i'n ymwybodol ei fod o yn diodde' dipyn bach ond roeddwn i'n cymryd fod popeth dan reolaeth.

"Roedd o'n andros o sioc i ni."

Disgrifiad,

Dywedodd Arwel Pugh bod marwolaeth ei fab yn "gythraul o ergyd"

'Dim cywilydd'

Yn ôl Arwel Pugh mae angen i fwy o bobl siarad am iechyd meddwl.

"Does 'na ddim digon [o siarad]," meddai.

"Dwi'n meddwl fod 'na stigma a chywilydd a tydi pobl ddim eisiau siarad allan.

"Ond bellach does 'na ddim cywilydd yn fy ngolwg i, mae o fel pob un salwch arall. Yr unig air allai feddwl i ddisgrifio fo ydi epidemig.

"Mae angen i rywbeth gael ei wneud ar frys.

"Mae angen codi ymwybyddiaeth, mae o angen bod yn y wasg, yn y papurau ac ar gyfryngau cymdeithasol."

Ymgyrchu dros ddealltwriaeth

Mae ffigyrau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod cynnydd graddol wedi bod yn nifer y dynion sy'n lladd eu hunain rhwng 2007 a 2016 ac er nad yw'r ffigurau yn rhai enfawr, maen nhw'n parhau yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig.

Pob blwyddyn mae oddeutu 300-350 o bobl yn lladd eu hunain yng Nghymru.

Yn ôl Arwel Pugh mae'n bwriadu parhau i ymgyrchu dros ddealltwriaeth well o gyflyrau iechyd meddwl er mwyn sicrhau nad oes "neb yn gorfod mynd trwy" yr hyn mae o a'i deulu yn ar hyn o bryd.

I gofio Gavin mae ei deulu a'i ffrindiau wedi trefnu taith redeg ym Mhorthmadog a Chaerdydd nos Fawrth gyda'r gobaith o gyfleu'r neges fod hi byth rhy hwyr i siarad.

Os ydych wedi cael eich effeithio gan y stori hon gallwch alw'r Samariaid am fwy o gymorth ar 0808 164 0123.