McBryde ar Howley: 'Dydy o ddim yn deimlad braf o gwbl'

Mae Robin McBryde wedi bod yn sôn am ymateb y tîm rheoli i'r "sioc enfawr" o glywed fod Rob Howley wedi ei anfon adre o Japan.

Ond ychwanegodd hyfforddwr blaenwyr Cymru fod y chwaraewyr wedi dygymod yn dda iawn â'r sefyllfa.

Cafodd Howley, 48, ei anfon adre ar drothwy cystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn dilyn amheuon ei fod wedi bod yn betio ar gemau rygbi.

Mae Howley a McBryde wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Warren Gatland am dros ddegawd.

Dywedodd McBryde wrth BBC Cymru fod y chwaraewyr wedi camu i'r adwy a bod yr hyn sydd wedi digwydd wedi "ysgogi'r chwaraewyr i ddechrau'r gystadleuaeth ar nodyn positif".

Roedd hefyd yn cyfaddef fod y dyddiau diwethaf wedi bod yn anodd i'r tîm rheoli ar lefel bersonol.