Sgandal betio: Anfon Rob Howley adref o Gwpan Rygbi'r Byd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ymateb Gareth Charles, gohebydd Cwpan Rygbi'r Byd, BBC Cymru, o Japan

Mae hyfforddwr Cymru, Rob Howley wedi cael ei anfon adref o Japan ar drothwy Cwpan Rygbi'r Byd yn dilyn amheuon ei fod wedi bod yn betio ar gemau rygbi.

Fe fydd hyn yn ergyd i ymgyrch Cymru, sy'n wynebu Georgia yn eu gêm agoriadol yn Toyota ddydd Llun.

Mewn datganiad, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau y bydd Stephen Jones yn hedfan i Japan i gymryd lle Howley fel hyfforddwyr yr ymosod.

Mae Howley, 48, wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Warren Gatland am dros ddegawd.

Ers ymuno yn 2008, mae'r cyn-fewnwr wedi cymryd yr awenau fel prif hyfforddwr ar ddau achlysur - yn 2013 ac yn 2017 pan oedd Gatland i ffwrdd gyda'r Llewod.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Rob Howley 59 cap dros ei wlad

Mae'r corff rheoli, World Rugby, wedi dweud y byddan nhw'n gwneud sylw ar y mater ddydd Mercher.

Mae rheol 6.3.1 World Rugby yn dweud: "Ni all person sy'n gysylltiedig, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, fetio neu geisio betio ar ganlyniad unrhyw elfen o unrhyw ddigwyddiad cysyllitedig..."

Roedd Stephen Jones i fod i ddechrau ar ei swydd fel hyfforddwr yr ymosod yn dilyn diweddglo Cwpan y Byd fis nesaf.

Bydd ef a chyn-gapten Cymru, Jonathan Humphreys, yn rhan o dîm hyfforddi newydd Wayne Pivac, sy'n cymryd lle Gatland fel prif hyfforddwr wedi'r gystadleuaeth yn Japan.

Datganiad Undeb Rygbi Cymru yn llawn

"Gall URC gadarnhau bod Rob Howley wedi dychwelyd i Gymru i gynorthwyo gydag ymchwiliad mewn perthynas â thoriad posib o reol 6 World Rugby, yn benodol betio ar rygbi'r undeb.

"Penderfynwyd gweithredu ar unwaith yng ngoleuni'r wybodaeth ddiweddaraf a basiwyd i URC.

"Ni ellir darparu unrhyw fanylion pellach ar hyn o bryd gan y byddai hyn yn niweidio'r ymchwiliad. Os bydd angen, penodir panel annibynnol i wrando ar yr achos.

"Mae Rob wedi cydweithredu'n llawn â'n trafodaethau cychwynnol a byddem yn gofyn i'r wasg werthfawrogi bod hwn yn fater anodd a phersonol i Rob a bod ei breifatrwydd yn cael ei barchu cyn dod i unrhyw ganlyniad.

"Mae Warren Gatland wedi ymgynghori ag uwch chwaraewyr a bydd Stephen Jones yn cyrraedd Japan ar unwaith i ymuno â'r garfan fel hyfforddwr yr ymosod."