Tensiynau wrth i brotest amgylcheddol rwystro ffordd
Roedd rhywfaint o densiwn rhwng gweithwyr a phrotestwyr wrth i ymgyrchwyr amgylcheddol rwystro ffordd ger purfa olew Valero yn Sir Benfro ddydd Iau.
Mae'r protestwyr, sy'n rhan o grŵp Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion), yn dweud eu bod wedi rhwystro tair mynedfa i'r safle yn Noc Penfro.
Eu bwriad ydy tynnu sylw at newid hinsawdd a "diffyg gweithredu llwyr llywodraeth i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil".
Yn ôl Valero dyw'r brotest heb gael effaith ar y gwaith cynhyrchu.