Protestwyr amgylchedd yn gadael purfa olew Valero
- Cyhoeddwyd
Mae 10 o ymgyrchwyr amgylcheddol wedi bod yn cynnal protest ger purfa olew Valero yn Sir Benfro.
Roedd y protestwyr, sy'n rhan o grŵp Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion), yn dweud eu bod wedi rhwystro tair mynedfa i'r safle yn Noc Penfro.
Ond ganol dydd fe lwyddodd rhai lorïau i gael mynedfa i'r safle wrth fynd drwy'r caeau.
Gadawodd y protestwyr y safle ychydig cyn 19:00, ac mae'r BBC yn deall bod yr heddlu wedi gadael iddyn nhw adael.
Dywedodd un o'r protestwyr eu bod wedi gadael oherwydd fod lorïau wedi canfod ffordd arall o gyrraedd y safle a bod y brotest felly ond yn effeithio ar y trigolion lleol.
Bwriad y protestwyr oedd tynnu sylw at newid hinsawdd a "diffyg gweithredu llwyr llywodraeth i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil".
Dywedodd un gweithiwr ar y safle wrth BBC Radio Wales fore Iau bod neb yn gallu mynd i mewn i'r safle a'i fod wedi cael ei anfon adref am y dydd.
Yn ôl Valero dyw'r brotest heb gael effaith ar y gwaith cynhyrchu.
Yn wreiddiol dywedodd un o'r protestwyr, Sven, eu bod yn fodlon aros "mor hir â sydd angen".
"Rydyn ni'n gwneud hyn allan o rwystredigaeth gyda diffyg gweithredu llwyr y llywodraeth i wneud unrhyw beth i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil," meddai.
"Rydyn ni wedi ysgrifennu at wleidyddion, mynd i brotestiadau, ond does dim dewis ar ôl ond gweithredu ar y strydoedd."
Dywedodd llefarydd ar ran Valero fod y burfa yn parhau i gynhyrchu yn ôl yr arfer, er bod rhai o'r staff wedi cael trafferth wrth geisio cyrraedd y gwaith.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys iddyn nhw gael eu galw i'r safle am tua 05:45, ac er bod y brotest yn un heddychlon ei fod yn achosi "cryn drafferth" i draffig lleol.
Ychwanegodd llefarydd bod swyddogion yn parhau ar y safle i geisio "lleihau'r effaith ar gymunedau a sicrhau diogelwch pawb".
Agorodd y burfa yn 1964 ac mae'n un o'r safleoedd puro mwyaf a mwyaf cymhleth yng ngorllewin Ewrop.