Cymru wedi 'troi'r gornel' yn erbyn Croatia a Slofacia
Mae chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen yn dweud bod y tîm wedi "troi'r gornel" yn y perfformiadau yn erbyn Croatia a Slofacia dros yr wythnos ddiwethaf.
Roedd gôl Gareth Bale yn ddigon i sicrhau gêm gyfartal nos Sul yn erbyn y tîm lwyddodd i gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd yn Rwsia y llynedd.
Er mai dwy gêm gyfartal gafodd tîm Ryan Giggs yn erbyn Croatia a Slofacia, mae nifer wedi mynegi bod y perfformiadau yn y gemau hynny wedi bod yn well na gweddill yr ymgyrch.
Dywedodd Allen ei fod yn teimlo bod y "perfformiadau wedi codi" a bod y garfan yn hyderus wrth fynd ymlaen i herio Azerbaijan a Hwngari fis nesaf i orffen yr ymgyrch i gyrraedd Euro 2020.