Gemau rhagbrofol Euro 2020: Cymru 1-1 Croatia

  • Cyhoeddwyd
gol baleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth gôl i Bale cyn hanner amser gan ddod â'r sgôr i 1-1

Cafodd Cymru gêm gyfartal yng Nghaerdydd yn erbyn Croatia yng ngemau rhagbrofol Euro 2020 nos Sul.

Ni chafodd Cymru ddechrau da, roedd Croatia yn cael y meddiant yn rhwydd iawn ac mewn naw munud fe ddaeth gôl i Croatia - wedi chwarae da gan Brekalo ar yr asgell chwith fe ddaeth y bêl at draed Vlasic fymryn tu allan i'r blwch cosbi a phlannodd y bêl i'r rhwyd.

Bu bron iddi fod yn ddwy i ddim ar ôl 13 munud wedi i Perisic ddianc rhag yr amddiffynwyr yn y cwrt cosbi, ond fe arbedodd Hennessey yn wych gyda'i law chwith.

Roedd hi'n ymddangos fel petai Daniel James wedi cael anaf drwg ar ôl chwarter awr wedi iddo gael ergyd i'w ben, ond wedi peth sylw roedd yn ôl ar ei draed a'r dyrfa yn rhoi ochenaid o ryddhad.

Gôl i Bale

Ar ddiwedd yr hanner cyntaf roedd y dyrfa yn dechrau mynd yn ddiamynedd a rhwystredig ond fe ymatebodd Cymru yn y munudau ychwanegol.

Gwnaeth Ben Davies rediad cadarn drwy ganol amddiffyn Croatia, a thrwy gyd-chwarae gwych a phenderfynol gyda Bale fe ryddhawyd chwaraewr Real Madrid o flaen y gôl a sgoriodd gydag ergyd heibio llaw chwith y golwr.

Roedd hi'n 1-1 ar hanner amser.

Disgrifiad,

Cymru wedi 'troi'r gornel' yn erbyn Croatia a Slofacia

Dechreuodd yr ail hanner gyda phryder ychwanegol wedi i Ampadu gael ei anafu'n ddrwg wedi gwrthdrawiad gyda Petkovic, a daeth y Joe Morrell ifanc i'r cae yn ei le.

Roedd hi'n gêm agos a Chroatia yn dal i gael y mwyafrif o'r meddiant, ond roedd Cymru yn llawer iawn mwy ymosodol yn yr ail hanner a phrin iawn oedd y cyfleoedd clir a gafodd Croatia ar waethaf y meddiant.

Daeth cyfle i Gymru gyda dwy funud i fynd pan wibiodd Lawrence i lawr ochr dde y cae ond fe'i baglwyd gan Modric - er fod yr ymosodiad wedi parhau methu ei ergyd wnaeth Connor Roberts.

Wedi wyth munud o amser ychwanegol fe ddaeth y gêm i ben yn gyfartal - Cymru felly yn parhau yn bedwerydd yng ngrŵp E ddau bwynt tu ôl i Slofacia a phedwar pwynt tu ôl i Hwngari.

Felly bydd rhaid ennill y ddwy gêm nesaf a dibynnu ar Slofacia i ollwng pwyntiau er mwyn sicrhau yr ail le yn y grŵp.