Achos siop sglodion: 'Baich wedi'i godi oddi ar gymuned'
Mae perchennog siop sglodion wedi ei gael yn ddieuog o lofruddiaeth ei wraig, fu farw ar ôl dioddef llosgiadau difrifol yn eu siop yn Sir Gâr.
Roedd Geoffrey Bran, 71, oedd yn rhedeg y Chipoteria yn Hermon gyda'i wraig Mavis, 69, yn mynnu bod ei wraig wedi llithro a thynnu'r olew dros ei hun.
Bu farw Mrs Bran yn Ysbyty Treforys yn Abertawe chwe diwrnod ar ôl iddi ddioddef llosgiadau i 46% o'i chorff ar 23 Hydref.
Dywedodd Bryan Davies, ffrind i Geoffrey Bran a'r teulu, fod "elfen o ryddhad" o glywed y dyfarniad fore Mawrth.
"O'n i'n teimlo, pan glywes i, bod baich wedi cael ei godi oddi ar y gymuned," meddai Mr Davies, sydd hefyd yn aelod o'r cyngor cymuned.