Gŵr yn ddieuog o lofruddio'i wraig gydag olew berwedig

  • Cyhoeddwyd
Geoffrey BranFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Geoffrey Bran yn mynnu bod ei wraig wedi llithro a thynnu'r olew dros ei hun

Mae perchennog siop sglodion wedi ei gael yn ddieuog o lofruddio ei wraig, fu farw ar ôl dioddef llosgiadau difrifol yn eu siop yn Sir Gâr.

Roedd Geoffrey Bran, 71, oedd yn rhedeg y Chipoteria yn Hermon gyda'i wraig Mavis, 69, yn mynnu bod ei wraig wedi llithro a thynnu'r olew dros ei hun.

Bu farw Mrs Bran yn Ysbyty Treforys yn Abertawe chwe diwrnod ar ôl iddi ddioddef llosgiadau i 46% o'i chorff ar 23 Hydref.

Roedd yr erlyniad yn mynnu bod Mr Bran wedi taflu'r olew ar ei wraig yn dilyn ffrae am bysgod oedd wedi'u llosgi.

Dywedodd llefarydd ar ran teulu Mavis Bran eu bod nhw wedi eu "llorio" gan ei marwolaeth.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mavis Bran yn yr ysbyty chwe diwrnod ar ôl cael ei llosgi gan olew berwedig

Clywodd yr achos yn Llys y Goron Abertawe bod Mrs Bran wedi dweud wrth ei ffrindiau bod ganddi ofn ei gŵr, a'i bod yn poeni y byddai'n ei lladd.

Fe wnaeth y rheithgor glywed hefyd bod Mr Bran wedi rhoi llygad ddu i'w wraig.

Roedd tystion wedi dweud bod gan y cwpl, oedd wedi bod yn briod am dros 30 mlynedd, berthynas danllyd a'i fod wedi gwaethygu ymhellach yn y misoedd cyn marwolaeth Mrs Bran.

Yn ôl yr erlyniad roedd Mrs Bran wedi ffonio ffrind iddi yn dilyn y digwyddiad, gan weiddi: "Mae Geoff wedi taflu olew berwedig drosof fi. Plîs dere 'ma rwyf angen dy help."

Clywodd y llys hefyd bod parafeddyg wedi clywed Mrs Bran yn dweud wrth ei ffrind am ddod â Mr Bran i'w gweld hi er mwyn iddo "weld beth mae e wedi ei wneud".

Erbyn iddi gyrraedd yr ysbyty doedd hi ddim yn gallu dweud wrth yr heddlu beth ddigwyddodd.

Disgrifiad,

Bryan Davies: 'Baich wedi'i godi oddi ar y gymuned' wedi dyfarniad

Roedd Mr Bran wedi dweud wrth y llys fod ei wraig yn yfed dwy botel a hanner o win bob diwrnod.

Clywodd y llys fod Mrs Bran wedi dechrau yfed am tua 09:30 ar fore 23 Hydref, a'i bod wedi yfed gwin coch a brandi yn ystod y dydd.

Roedd Mr Bran wedi dweud fod ei wraig yn "grac" gydag ef yn aml, a'i bod hi yn ei "feio am bopeth".

Dywedodd wrth yr achos mai ei ymateb i hynny weithiau fyddai rhoi ei wraig mewn cadair er mwyn "cau ei cheg hi".

'Parhau gyda'n bywydau'

Ar ddiwedd yr achos fe wnaeth llefarydd ar ran y teulu ddatganiad tu allan i'r llys.

"Fel teulu, fe fydden ni'n hoffi diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi dros y flwyddyn ddiwethaf," meddai.

"Mae ein teulu, ffrindiau a'n tîm cyfreithiol wedi dangos trugaredd, proffesiynoldeb a sicrwydd i ni yn ystod y cyfnod heriol hwn.

"Mae colli Mavis wedi llorio'r teulu ac fe fydden ni nawr yn hoffi parhau gyda'n bywydau ac i alaru heb ymyrraeth bellach."

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Roedd siop sglodion y cwpl ger eu cartref yn Hermon

Dywedodd Bryan Davies, ffrind i Geoffrey Bran a'r teulu, fod "elfen o ryddhad" o glywed y dyfarniad fore Mawrth.

"O'n i'n teimlo, pan glywes i, bod baich wedi cael ei godi oddi ar y gymuned," meddai Mr Davies, sydd hefyd yn aelod o'r cyngor cymuned.

"Mae marwolaeth Mavis wedi bod yn siglad i'r ardal.

"Ma' Geoff yn gymeriad addfwyn iawn, o hyd yn barod i wneud cymwynas. O'dd e'n sioc fod y fath beth wedi digwydd.

"Rhaid dweud fod y gymuned wedi sefyll yn weddol gryf y tu ôl i Geoff a hefyd yn cydymdeimlo gyda'r teulu ac mae'n glod hefyd i deulu Geoff sut maen nhw wedi edrych ar ei ôl e.

"Gobeithio bydd y gymuned yn barod i groesawu Geoff yn ôl i fyw i Hermon, ni wedi gweld ei isie fe."