Pobl Cymru 'am weld manteision' gwario ar natur
Mae elusen amgylcheddol yn galw am gynnydd sylweddol ym maint yr arian sy'n cael ei wario ar fynd i'r afael ag "argyfwng natur" yng Nghymru.
Mewn adroddiad yn amlinellu nifer o argymhellion, mae WWF Cymru'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru glustnodi 5% o'i chyllideb - sef tua £900m y flwyddyn - ar brosiectau adfer natur a thaclo newid hinsawdd.
Mae'r argymhellion eraill yn cynnwys rhoi mwy o sylw i'r pwnc yn y cwricwlwm addysg, mesurau i atal llygredd amaethyddol a gadael i gymunedau reoli tir sydd yn nwylo cyrff cyhoeddus ar gyfer cynlluniau sy'n hybu natur
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi lansio cynllun o bwys yn ddiweddar i helpu adfer byd natur.
Ond fe fyddai'r wlad ar ei hennill o gymryd camau pellach sydd eisoes yn bosib dan y grymoedd sydd gan Lywodraeth Cymru, yn ôl pennaeth Cyfathrebu WWF Cymru, Richard Nosworthy.