Angen gwario mwy mewn ymateb i 'argyfwng natur' Cymru

  • Cyhoeddwyd
Adroddiad Argyfwng Natur Cymru WWF Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiad WWF Cymru'n nodi 10 argymhelliad maen nhw'n dweud fyddai'n gwneud gwahaniaeth i fyd natur yng Nghymru

Mae angen cynyddu faint sy'n cael ei wario ar fynd i'r afael â'r "argyfwng natur" yng Nghymru yn sylweddol, yn ôl ymgyrchwyr amgylcheddol.

Galw ar i'r llywodraeth glustnodi 5% o'i chyllideb - oddeutu £900m y flwyddyn - ar gyfer helpu bywyd gwyllt mae WWF Cymru.

Mae'n un o 10 o argymhellion mewn adroddiad newydd, sydd hefyd yn cynnwys rhoi mwy o sylw i'r pwnc yn y cwricwlwm addysg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi lansio cynllun o bwys yn ddiweddar i helpu adfer byd natur.

Disgrifiad,

Richard Nosworthy, WWF Cymru: "Bydd pobl Cymru'n gweld manteision"

Bydd 'Lle Lleol ar Gyfer Natur' yn cynnig 801 o becynnau i gymunedau ar draws y wlad i'w helpu i greu gerddi neu berllannau.

Mae adroddiad WWF Cymru yn galw am "ymateb brys" i ddelio â'r colledion mewn rhywogaethau a chynefinoedd drwy Gymru, yn ogystal â'r bygythiad sy'n wynebu cymunedau gan stormydd a llifogydd ffyrnicach.

Dywedodd Alexander Phillips, swyddog polisi bioamrywiaeth yr elusen, eu bod nhw wedi edrych yn benodol ar y "grymoedd sydd gan Lywodraeth Cymru" er mwyn cynnig syniadau.

Ffynhonnell y llun, dbsstuart/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn argymell camau i helpu creu gerddi neu berllannau

Beth yw argymhellion yr elusen?

  • Clustnodi 5% o wariant blynyddol ar annog a chefnogi adfer natur a thaclo newid hinsawdd;

  • Mesurau i atal llygredd amaethyddol a gwaredu ar 'isadeiledd llwyd' sy'n peri problemau fel hen argaeau ar afonydd;

  • Ariannu cystadleuaeth i'r cyhoedd ar gyfer datblygu prosiectau peilot i gynyddu bioamrywiaeth;

  • Galluogi cymunedau i reoli tir sydd yn nwylo cyrff cyhoeddus ar gyfer cynlluniau sy'n hybu natur;

  • Hyfforddi gweithwyr cyhoeddus ynglŷn â'r berthynas rhwng natur a lles, a sicrhau fod hynny'n rhan o'r cwricwlwm addysg newydd hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Dydy maint gwariant presennol Llywodraeth Cymru ar wella bioamrywiaeth ddim yn glir, medd Alexander Phillips o WWF Cymru

Dywedodd Mr Phillips: "Tra bod Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn ddiweddar, ry'n ni'n gweld bod dealltwriaeth dda ynglŷn â'r hyn sydd angen digwydd o ran yr hinsawdd, ond gyda'r ochr natur mae'n llawer mwy cymhleth."

Ychwanegodd nad oedd hi'n glir faint yn union o gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru oedd yn cael ei wario ar fioamrywiaeth, ond y byddai ymrwymo i glustnodi 5% yn golygu o leiaf dyblu faint o gyllid sydd ar gael yn bresennol.

Tystiolaeth yn 'pentyrru'

Mae'r llywodraeth wedi "cymryd rhai camau cadarnhaol", gan gynnwys cyhoeddi £140m yn ychwanegol ar gyfer yr amgylchedd yn eu cyllideb ddiweddaraf.

Ond mae'r adroddiad yn pwysleisio bod y "dystiolaeth ynglŷn â'r argyfwng ecolegol sy'n ein hwynebu" yn pentyrru.

Yn ddiweddar, fe awgrymodd astudiaeth arall bod un ym mhob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu, tra bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio yn 2016 nad yw un o ecosystemau Cymru yn ddigon gwydn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiadau wedi mynegi pryderon ynghylch effeithiau newid hinsawdd ar gynefinoedd rhywogaethau, yn cynnwys y grugiar ddu

Beth yw cynllun y Llywodraeth?

Mewn partneriaeth ag elusen Cadwch Gymru'n Daclus, bydd dros 800 o becynnau ar gael i gymunedau ar draws y wlad.

Maen nhw'n cynnwys eitemau fel planhigion cynhenid a hadau, compost heb fawn, offer garddio, a gwestai pryfed a gwenyn.

Y syniad ydy y bydd hyn yn arwain at greu 267 o erddi glöyn byw, 267 o erddi ffrwythau a 267 o erddi bywyd gwyllt.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths fod hyn yn rhan o "ymrwymiad ehangach i'w gwneud hi'n rhwydd i bawb amddiffyn, adfer a chyfoethogi'r bywyd gwyllt sydd ar garreg ein drws ac o'n cwmpas."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn natur ac rydym yn benderfynol o gefnogi ein hecosystemau drwy fuddsoddi mewn amrywiaeth o fentrau i sicrhau eu bod mor wydn â phosibl.

"Ers datgan argyfwng hinsawdd rydym wedi buddsoddi symiau sylweddol yn yr amgylchedd er budd cenedlaethau'r dyfodol, gan gynnwys £140m i leihau allyriadau a chynyddu bioamrywiaeth yn ein cyllideb ddiweddar."