Staff ysbyty fwyaf Cymru yn paratoi am coronafeirws

Mae meddyg blaenllaw yn ysbyty mwyaf Cymru yn dweud bod staff yn mentro i diroedd gwbwl ddigynsail wrth baratoi i wynebu "ton enfawr" o achosion coronafeirws.

Hyd yn hyn mae 14 o gleifion wedi cael eu derbyn i gael gofal dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd gyda'r firws.

Dywedodd Cyfarwyddwr Bwrdd Gwasanaethau Clinigol Arbenigol yr ysbyty, Dr Richard Skone, fod ymdrechion staff hyd yma wedi bod yn enfawr.

Mae mwy na 800 o glinigwyr o bob rhan o wahanol adrannau wedi cael hyfforddiant arbenigol Covid-19.

Disgwylir i'r gwaith o drin cleifion sydd wedi eu heintio â'r firws gynyddu llwyth gwaith yr ysbyty yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf yn sylweddol.

"Rydyn ni wedi modelu ar gyfer sawl senario gwahanol, mae'r straen yn dod o beidio â gwybod pa un y byddwn ni yn gorfod ei weithredu," meddai Dr Skone.

"Mae'n eithaf anodd gwybod beth i'w ddisgwyl - nid ydym erioed wedi bod yma o'r blaen - ond rydym yn sicr yn meddwl ein bod yn barod cystal ag y gallwn."