Meddyg teulu o Wynedd wedi paratoi am coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Mae meddyg teulu o Wynedd wedi dweud eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i baratoi ar gyfer trin cleifion sy'n cael eu taro'n wael gyda'r coronafeirws.
Wrth siarad â BBC Cymru Fyw, dywedodd Dr Gwilym Siôn Pritchard o Feddygfa'r Waunfawr eu bod wedi prynu offer arbenigol ychwanegol ar gyfer trin symptomau'r feirws.
Fe bwysleisiodd Dr Pritchard hefyd ei bod yn bwysig fod pobl yn parhau i gymryd y camau priodol, drwy gadw pellter cymdeithasol a rhoi blaenoriaeth i hylendid personol: "Fedra i ddim pwysleisio digon pa mor bwysig ydy hi i bawb i barhau i olchi eu dwylo yn gyson."
Eglurodd hefyd, gan nad oes cyffur ar gael i ymladd y COVID19 yn uniongyrchol, y cyfan all meddygon ei wneud ydy ceisio trin a lleddfu symptomau'r feirws.
Dywedodd hefyd fod y feddygfa bellach wedi ei rhannu er mwyn ceisio cadw pobl sy'n dangos symptomau ar wahân i gleifion eraill.
Offer ychwanegol
"Da ni wedi newid dipyn ar y gwasanaethau, 'da ni'n trio gwneud ymgynghoriadau dros Whatsapp Video lle bo modd.
"Da ni wedi cynyddu faint o ocsigen sydd gennym ni, yn ogystal â'r moddion priodol a nebulizets, a chynllunio, yn anffodus ar gyfer be' sydd i ddod.
"Yn anffodus, 'da ni'n disgwyl i niferoedd y bobl sydd wedi eu heintio gynyddu, ond fe fydda ni'n gwneud ein gorau ymhob ffordd i achub bywydau.
"Ond hefyd mae'n rhaid paratoi y bydd na waith lliniaru pobl, ac fe fydd hynny yn rhywbeth reit ddwys."
Mae Dr Pritchard yn teimlo fod y rhan fwyaf o bobl wedi gwrando ar y cyngor i gadw pellter cymdeithasol.
"Ar y cyfan, dwi'n teimlo'n bositif fod pobl wedi bod yn gwrando ar neges y llywodraeth, ac wedi cymryd y peth yn gwbl o ddifri'.
"Dw'n gobeithio fod hyn wedi prynu amser i ni fel gweithwyr iechyd er mwyn gallu paratoi i roi'r gwasanaeth iechyd gorau bosib.
Siarad gyda phlant
Mae gan Dr Pritchard dri o feibion ifanc, ac fe ddywedodd hefyd pa mor bwysig ydi egluro'r sefyllfa i blant, a'u haddysgu pa mor bwysig yw hylendid.
"Mae o'n bwysig peidio anwybyddu'r peth efo plant. Fel rhan o ddatblygiad plentyn, mae cymdeithasu a bod yn barod i ddangos emosiwn yn allweddol.
"Felly mae'n rhaid iddyn nhw wybod fod 'na reswm pam fod pobl yn osgoi ei gilydd ac yn hunain ynysu.
"Dwi ddim yn awgrymu eu bod nhw angen gwybod pob peth, ond 'da ni wedi dweud wrth hogiau ni fod 'na 'germau yn lledaenu o amgylch y byd, sy'n gwneud pobl yn sâl, a'i bod yn bwysig bwysig eu bod yn golchi dwylo yn iawn.
"Da ni hefyd wedi dweud wrthyn nhw na fydda nhw'n gallu cael cuddles gan nain a taid am y tro, rhag ofn ein bod yn lledaenu'r germs."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2020