'O'n i'n meddwl 'swn i'n gael o, 'sa gen i fawr o obaith'
Mae ysbytai cymunedol yn chware rhan bwysig yn y frwydr yn erbyn Covid-19 ac maen nhw wedi gorfod addasu i ddelio efo'r sefyllfa.
Yn y gogledd orllewin mae tri o'r chwech ysbyty cymunedol wedi eu clustnodi i roi cymorth i bobl sydd hefo Covid-19. Y tri ydy ysbytai Tywyn a Dolgellau ym Meirionnydd, ac Ysbyty Bryn Beryl ger Pwllheli yn Nwyfor.
Fe gafodd BBC Cymru Fyw gyfle i edrych ar waith Ysbyty Bryn Beryl wrth i'r staff drin cleifion Covid-19 am y tro cyntaf - a chlywed stori Eluned Mathias, sy'n 94 oed ac yn gwella o'r feirws.