Ysbytai cymunedol yn addasu i ymdopi gyda Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"O'n i'n meddwl 'swn i'n gael o, 'sa gen i fawr o obaith"

Mae ysbytai cymunedol yn chwarae rhan bwysig yn y frwydr yn erbyn Covid-19 ac maen nhw wedi gorfod addasu i ddelio efo'r sefyllfa.

Yn y gogledd orllewin mae tri o'r chwe ysbyty cymunedol wedi eu clustnodi i roi cymorth i bobl sydd hefo Covid-19 - Ysbytai Tywyn a Dolgellau ym Meirionnydd, ac Ysbyty Bryn Beryl ger Pwllheli yn Nwyfor.

Un sydd yn y ward Covid-19 yn Bryn Beryl ydy Eluned Mathias, gwraig 94 oed, o'r Fron ger Caernarfon.

Dywedodd wrth BBC Cymru Fyw: "Nes i ddechrau teimlo'n wael rhyw dair, bedair wythnos yn ôl, poenau difrifol yn y joints, yn fy 'sgwyddau, do'n i methu diodda' fo.

"Roedd o'n mynd yn waeth ac yn waeth, a'r unig beth o'n i'n gallu 'neud oedd gorwedd lawr.

"Nes i'm meddwl fod o unrhyw beth i 'neud efo hynna [Covid-19]."

'Tipyn o sioc'

Dywedodd fod y boen wedi gwaethygu ac erbyn i nyrs ddod i'w gweld y diwrnod canlynol roedd hi'n amlwg bod angen iddi fynd i'r ysbyty.

"Mi ddaeth y doctor, 'naeth o edrych arna i a chymryd fy nhymheredd a deud 'mae gennoch chi'r feirws'.

"Nes i 'rioed feddwl mod gen i o, dwi ddim 'di bod allan, does neb 'di bod yn dod fewn - roedd o'n dipyn o sioc.

"Dwi'n teimlo'n lot, lot gwell rŵan, yn gallu cysgu. Pan o'n i ym Mangor, o'n i'n hallucinatio, allai'm cofio lot am y diwrnod es i fewn, o'n i mor wael."

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i chi drystio'r doctoriaid, maen nhw'n gwybod be' mae'n nhw'n 'neud, gwneud be' maen nhw'n dd'eud, a chadw fynd, bod yn bositif.

"Dwi'n teimlo'n iawn rŵan, dwi'n barod i fynd adra 'mond bo' fi bach yn simsan ar fy nhraed."

Disgrifiad o’r llun,

Louise Davies ger mynedfa Ysbyty Bryn Beryl

Mae Ysbyty Bryn Beryl yn cael ei ddefnyddio i asesu a ddylid gyrru person am brawf Covid-19.

Mae'r pandemig wedi golygu newid mawr i waith staff yr ysbytai cymunedol. Louise Davies ydy Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio Cymunedol y Gorllewin.

Dywedodd wrth BBC Cymru Fyw: "Mae ganddo ni chwe ysbyty cymunedol a 'da ni wedi gorfod addasu llawer ar yr ysbytai. Mae na 138 o welyau fel rheol, ond bellach mae hwnnw wedi cynyddu i 183.

"Mae tair o'r ysbytai yn delio efo Covid a'r tair arall efo pethau cyffredinol… mae pobl angen gofal er bod Covid o gwmpas."

Ychwanegodd: "Mae gan yr ysbytai cymunedol ran bwysig i chwarae... hefyd mae na lot o gleifion efo'r feirws yn y gymuned felly dim jyst yr ysbytai sydd wedi gorfod paratoi.

"Mae ganddo ni y district nurses hefyd…. mae nhw wedi gorfod addasu eu gwaith… sut mae nhw'n cynnal eu gwaith dyddiol er mwyn edrych ar ôl cleifion yn eu cartref sydd efo'r feirws a'r rheina sydd heb y feirws".

Disgrifiad o’r llun,

Mae ysbyty gymunedol Bryn Beryl ar gyrion Pwllheli

Ond beth ydy sefyllfa'r feirws yn Nwyfor a'r gogledd orllewin yn gyffredinol?

Dr Eilir Hughes ydy arweinydd Meddygon Dwyfor ac arweinydd clinigol Ysbyty Bryn Beryl.

Dywedodd: "'Da ni fel meddygon teulu ar y rheng flaen ac yn yr ardal hon da ni'n teimlo bod pethe wedi sefydlogi.

"'Da ni'n gobeithio na fydd yr achosion yn codi mwyach a gyda gobaith bydd y niferoedd o leia' yn aros yn gyson neu yn gostwng - da ni'n gobeithio bod y penllanw wedi bod."