Stori Rodolfo: Brasil, dinasyddiaeth a dysgu Cymraeg

Rodolfo Piskorski yw'r person cyntaf erioed i sefyll prawf dinasyddiaeth y DU drwy gyfrwng y Gymraeg - ffaith y mae'n "falch iawn" ohoni.

Yn wreiddiol o Frasil, daeth Rodolfo i Gaerdydd yn 2013 i astudio yn y brifysgol cyn ymgartrefu yng Nghymru a dysgu mwy am ei hiaith a'i diwylliant.

Felly pan ddaeth ati i geisio am ddinasyddiaeth cyn i gyfnod pontio Brexit orffen, doedd ond un dewis amdani - sefyll y prawf yn y Gymraeg!

Mae'n dweud bod hynny wedi bod yn bwysig iddo oherwydd mai Cymru oedd yr unig ran o'r DU ble roedd wedi byw, ac am ei fod eisiau dangos bod sawl ffordd o fod yn Brydeinig.