Y dyn o Frasil safodd ei brawf Prydeindod yn Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yn ôl Rodolfo roedd eisiau i'w broses o gael dinasyddiaeth fod "yn fwy Cymreig"

Mae gŵr o Frasil wedi ei syfrdanu ar ôl i bobl gyfrannu cannoedd o bunnoedd i dalu ei ffioedd dinasyddiaeth Prydain am iddo fod y person cyntaf i sefyll ei brawf yn Gymraeg.

Fel rhan o'r broses dinasyddiaeth, mae'n rhaid pasio prawf am hanes a gwerthoedd Prydain. Gan mai dim ond yng Nghymru roedd Dr Rodolfo Piskorski wedi byw, fe ofynnodd i'w wneud yn y Gymraeg - er nad ydy o'n rhugl eto.

Ac yntau methu fforddio'r £1505 i dalu am y broses gyfan o ddod yn Brydeiniwr fe roddodd apêl ar y we ac o fewn dyddiau roedd bron â chyrraedd ei darged.

Cartrefu yng Nghymru

Fe symudodd Rodolfo i Gaerdydd i astudio doethuriaeth yn 2013 gan ddechrau dysgu Cymraeg ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Er bod ganddo statws sefydlog i aros ym Mhrydain, fe benderfynodd geisio am ddinasyddiaeth Prydain oherwydd ansicrwydd Brexit.

Gan mai dim ond yng Nghymru roedd o wedi byw, roedd y gŵr 34 oed eisiau gwneud y broses yn fwy ystyrlon a chanfod bod posib gwneud y prawf yn Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"Mae'r prawf yn un gwirion, fel cwis tafarn, a tydi o ddim yn dy integreiddio di felly nes i feddwl 'sut alla i wneud y broses yn fwy Cymreig?' a rhoi sialens i fy hun i wneud o yn y Gymraeg," meddai Rodolfo, sy'n wreiddiol o Florianόpolis, yn Ne Brasil.

"Mae'r hawl yno, ac mae'n bwysig i ddefnyddio hawliau ieithyddol. Roeddwn i eisiau gwneud safiad a dangos bod gwahanol ffyrdd o fod yn Brydeiniwr. Roeddwn i eisiau dangos elfen wahanol i hunaniaeth Prydeindod a gwneud i'r bobl mewn grym i gydnabod hynny a chydnabod yr hawl."

Mae'r prawf, sy'n costio £50, yn cynnwys 24 o gwestiynau amlddewis ac fel arfer yn cael ei wneud ar gyfrifiadur.

Roedd angen gwneud yr un Cymraeg fel prawf ar bapur mewn swyddfa yng Nghaerdydd, ac roedd yn rhaid disgwyl am wythnosau i dderbyn y canlyniadau oherwydd amser cyfieithu.

Fe basiodd Rodolfo a chael gwybod ar ôl gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth mai fo oedd y cyntaf i'w sefyll yn Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rodolfo ei fod yn mwynhau dysgu Cymraeg yn y wlad lle mae'r iaith yn fyw. Fe ddysgodd Saesneg tra'n byw ym Mrasil.

Faint o Brydeiniwr ydych chi?

Allwch chi ateb rhai o gwestiynau'r prawf Prydeindod?

(Mae'r atebion ar ddiwedd yr erthygl. Mae 24 cwestiwn yn y prawf cyflawn, ac mae'n rhaid cael dros 75% yn gywir)

Cwestiwn 1

Nodwch a yw'r datganiad isod yn WIR neu'n ANGHYWIR:

Yn ystod Dirwasgiad Mawr y 1930au, roedd lefelau uchel o gyflogaeth yn y DU.

Cwestiwn 2

Pa un o'r datganiadau canlynol sy'n gywir?

a) Mae Canghellor y Trysorlys yn gyfrifol am drosedd, plismona a mewnfudo.

b) Mae Canghellor y Trysorlys yn gyfrifol am yr economi.

Cwestiwn 3

Pa drefedigaethau o'r Ymerodraeth Brydeinig a benderfynodd ddatgan eu hannibyniaeth yn 1776?

a) Awstralia

b) Canada

c) America

d) De Affrica

Cwestiwn 4

Beth yw'r oed cyfreithiol isaf y gallwch brynu alcohol yn y DU?

a) 20

b) 16

c) 18

d) 19

Cwestiwn 5

Nodwch a yw'r datganiad isod yn WIR neu'n ANGHYWIR:

Mae Pencampwriaeth Wimbledon yn ymwneud â chwaraeon modur.

Cwestiwn 6

Pa DDAU o'r canlynol oedd meddylwyr mwyaf blaengar yr Oes Oleuedig?

a) Robert Burns

b) Robert Louis Stevenson

c) Adam Smith

d) David Hume

Fe wnaeth Rodolfo sefyll ei brawf fis Ionawr a'i fwriad oedd cwblhau'r broses dinasyddiaeth cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd ddechrau'r flwyddyn nesaf.

Heb arian i dalu am y cyfan, ac amser yn prysur ddiflannu, fe ddilynodd gyngor un o'i ffrindiau Cymraeg a rhannu ei stori ar wefan Go Fund Me. O fewn wythnos roedd wedi casglu £1400.

"Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel," meddai Rodolfo, sy'n gweithio fel athro Portiwgaleg ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Mae'n un peth i fod yn gymwys i fod yn ddinesydd mewn gwlad arall, ond mae'n deimlad arbennig i gael pobl y wlad i dy gefnogi. Dwi'n teimlo mod i wir wedi cael fy nghroesawu."

Ffilm Hollywood

Ac mae ei fam nôl yn Ne America hefyd wedi gwirioni.

Roedd hi wedi disgyn mewn cariad gyda'r Gymraeg pan oedd ei mab yn flwydd oed - er nad oedd hi'n gwybod pa iaith oedd hi ar y pryd. Yn 1987, roedd hi wedi gwylio Empire of the Sun, ffilm gan Steven Spielberg sydd wedi ei leoli yn China, ac wrth ei bodd gyda'r hwiangerdd Suo Gân sy'n cael ei chanu ynddi.

"Pan nes i symud i Gymru roedd yn rhaid i mi recordio fy hun yn canu'r gân i Mam," meddai y gŵr o Dde America.

Mae o newydd symud i fflat yng nghanol Caerdydd ac yn dweud ei fod yn mwynhau byw mewn dinas ifanc - ac mae agwedd tebyg ganddo tuag at yr heniaith hefyd:

"Dwi wedi clywed pobl yn siarad am y Gymraeg fel rhywbeth henaidd ond i fi mae'n rhywbeth sy'n gyffrous, cŵl ac ifanc - dyna fy mhrofiad i o fyw yng Nghaerdydd."

Atebion: 1) Anghywir; 2) b; 3) c; 4) c; 5) Anghywir; 6) c + d.

Hefyd o ddiddordeb: