'Mae'n bwysig bod y rheolau'n newid ar gyfer y tadau'

Mae cwpl o'r Wyddgrug sydd wedi croesawu eu babi cyntaf i'r byd yn ddiweddar yn dweud eu bod yn falch bod y rheolau ar apwyntiadau mamolaeth nawr yn cael eu llacio.

Doedd Alun Lincoln-Jones ddim wedi gallu mynd i'r rhan fwyaf o'r apwyntiadau pan oedd ei bartner Sophie yn feichiog, a hynny oherwydd rheolau Covid-19.

Ni chafodd chwaith dreulio mwy nag ychydig funudau gyda'i fab Mabon ar ôl yr enedigaeth, profiad anoddach fyth o ystyried y bu'n rhaid i Sophie a'r babi aros yn yr ysbyty am wythnos wedyn oherwydd salwch.