Llacio rheolau ymweliadau ac apwyntiadau ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Sophie, Alun and Mabon Lincoln-JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Alun ddim yn cael ymweld â'i fabi newydd yn yr ysbyty am wythnos

Bydd partneriaid menywod beichiog sy'n byw mewn ardaloedd â chyfradd isel o achosion Covid-19 yn cael mynychu apwyntiadau mamolaeth yn dilyn newid i reolau ymweld ag ysbytai.

Bellach bydd yna fwy o hyblygrwydd i fyrddau iechyd a hosbisau gael caniatáu ymweliadau ar sail cyfraddau achosion yn lleol.

Cyn hyn dim ond dan rai amgylchiadau penodol y bu'n bosib mynychu apwyntiadau meddygol hefo claf ac ymweld â phobl mewn ysbytai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr hyblygrwydd newydd "yn sgil darlun newidiol trosglwyddiad coronafeirws ar draws Cymru, gyda gwahaniaethau arwyddocaol mewn trosglwyddiad cymunedol ar draws gwahanol rannau o'r wlad".

Disgrifiad,

"Mae'n bwysig bod y rheolau'n newid ar gyfer y tadau"

Bydd maint ystafelloedd, gallu pobl i gadw pellter a mesurau atal lledaeniad yr haint yn ystyriaeth o ran caniatáu ymweliadau i wardiau mamolaeth.

Yn ôl Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Jean White, "bydd bron fel yr adeg cyn Covid" i fenywod sy'n byw mewn ardaloedd â chyfraddau isel iawn o'r haint.

'Bach o sioc'

Croesawodd Sophie ac Alun Lincoln-Jones, o'r Wyddgrug, eu babi cyntaf i'r byd bum wythnos yn ôl.

Ond o ganlyniad i'r rheolau, dim ond 10 munud y cafodd Alun gyda'i wraig a'i fab wedi'r enedigaeth cyn gorfod gadael yr ysbyty.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Alun adael yr ysbyty deng munud ar ôl genedigaeth ei fab

"Fel o'n i'n mynd trwy'r drws 'naethon nhw droi rownd ato fi a dweud bod rhaid i fi adael," meddai Alun. "O'dd o bach o sioc achos doeddwn ni ddim wedi cael fy prepario ar gyfer hynna, felly oeddwn ni'n gorfod mynd adre' 'yn hun ac wedyn roedd Sophie a Mabon yna yn yr ysbyty."

Bu'n rhaid i Sophie a Mabon aros yn yr ysbyty am wythnos ychwanegol wedi'r enedigaeth, ar ôl iddo gael clefyd melyn (jaundice).

"O'dd hwnna'n reit anodd achos dwi 'di methu wythnos gyntaf ei fywyd o, a hefyd o'dd o'n teimlo'n reit ddrwg achos o'dd Sophie yna ar ben ei hun ac o'n i'n teimlo fel o'n i ddim yn gallu helpu hi," meddai Alun.

"Dwi'n meddwl bod o'n bwysig iawn bod y tad yn cael bod yn involved ac yn cael mynd i fewn i watshad, a helpu'r fam."

Profiad 'trawmatig'

I Sophie, cafodd y rheolau effaith ar y cyfnod cyn yr enedigaeth hefyd.

"Hefo'r sganiau a phethau oherwydd roeddwn ni'n disgwyl y babi, dwi 'di cael popeth yn digwydd i mi," meddai. "Dwi 'di teimlo'r babi a gweld y midwife, siarad hefo'r midwife a phethau, ond doedd Alun ddim yn gallu dod, so iddo fo fi'n meddwl roedd o'n anodd iddo gael perthynas hefo'r babi."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mabon Fôn clefyd melyn ar ôl cael ei eni

Ychwanegodd wrth sôn am yr enedigaeth yn yr ysbyty: "Roedd rhaid iddo fo fynd ar ôl dal Mabon am ddim ond pum munud a 'da ni ddim really 'di cael amser i siarad hefo'n gilydd am beth sy' wedi digwydd, sut oedd y birth i gyd, y labour - oedd o'n drawmatig really.

"Oedd o'n babi cyntaf ni so ni really 'di angen cael amser hefo'n gilydd jyst i siarad am beth sy' wedi digwydd a jyst i fwynhau cael bod yn deulu am ychydig."

Mae Sophie ac Alun yn falch bod y rheolau'n newid.

"Reit yn y dechrau mae'n amser really arbennig yn ein bywyd ni, ac mae'n bwysig iddyn nhw fod yn rhan o'r profiad," meddai Sophie.

Ychwanegodd: "Dwi'n falch bod nhw'n newid i bobl eraill achos mae 'di cael effaith ar ni fel teulu, babi cyntaf ni, ddim y profiad o'n i'n disgwyl o gwbl, ond dwi'n falch bydden nhw'n newid i bobl eraill achos dwi ddim eisiau neb i fynd trwy'r un sefyllfa".

Yn ôl Jean White, y newidiadau mwyaf arwyddocaol bydd i wasanaethau mamolaeth.

"Mewn ardal risg uchel efallai byddai'r fenyw ond yn cael cymorth yn ystod yr enedigaeth ac ond ag amser cyfyngedig gyda'r partner yn ystod cyfnodau gwahanol o'r enedigaeth," meddai.

"Mewn ardaloedd risg isel bydd y sefyllfa bron fel cyn Covid, ble fydd partner yn cael dod i'r rhan fwyaf o apwyntiadau a bydden nhw'n cael aros yn hirach... a bydd mwy o ymweliadau a chyswllt yn cael eu caniatáu".

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething yn cydnabod bod y cyfyngiadau wedi cael effaith fawr ar gleifion a'u teuluoedd.

"Mae'n bwysig i ni gofio nad yw'r haint wedi diflannu a bod iechyd, diogelwch a lles cleifion, cymunedau a staff y GIG yn parhau i fod yn hollbwysig i Lywodraeth Cymru a darparwyr iechyd," meddai.

Dywedodd cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes ei fod "ond yn gywir ein bod yn rhoi'r hyblygrwydd yn seiliedig ar sefyllfaoedd lleol o ran ymweliadau i ysbytai ble mae'n ddiogel i wneud hynny".

Ychwanegodd: "Mae'r newid yma'n rhoi cyfle i'n haelodau gymryd rhagofalon synhwyrol, wedi'u seilio ar dystiolaeth ble mae angen, a bydd hefyd yn helpu codi ysbryd cleifion a theuluoedd sy'n ysu i gefnogi'u hanwyliaid."