Mark Drakeford: 'Nid dyma'r cytundeb ro'n i eisiau'

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd wedi dod i gytundeb ar delerau masnach pan ddaw'r cyfnod pontio ddiwedd y flwyddyn.

Dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson mewn cynhadledd ddydd Iau: "Rydym wedi hawlio rheolaeth yn ôl ar ein deddfau ac ein tynged."

Mae'n dadlau hefyd fod y telerau terfynol "yn gytundeb da i Ewrop gyfan", ac mae pennaeth yr UE, Ursula von dêr Leyen hefyd wedi dweud bod y fargen yn un "deg a chytbwys".

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bod unrhyw fath o gytundeb yn well na dim cytundeb o gwbl, ond mai "tenau" yw'r fargen derfynol.