Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb masnach gyda'r UE
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cytuno ar delerau masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Mae'n dilyn misoedd o drafodaethau i geisio osgoi Brexit digytundeb ar ddiwedd y cyfnod trosglwyddo.
Er i'r DU adael yr undeb ar 31 Ionawr eleni, yn sgil canlyniad pleidlais refferendwm 2016, mae'n parhau yn rhan o'r Undeb Tollau a'r Farchnad Sengl tan 31 Rhagfyr.
Wedi i'r ddwy ochr fod yn trafod drwy'r nos nos Fercher, y gred ydy bod y ddogfen derfynol yn cynnwys dros 2,000 tudalen o fanylion cyfreithiol am y cytundeb newydd.
Bydd y cytundeb nawr yn mynd gerbron senedd y DU - a senedd yr UE - er mwyn cael ei gymeradwyo ganddyn nhw.
Mae disgwyl y bydd senedd y DU yn cael ei alw nôl i San Steffan ar 30 Rhagfyr er mwyn gwneud hyn yn bosibl.
Dyw hi ddim yn bosib i Senedd yr UE gymeradwyo'r cytundeb llawn tan fis nesaf, ond y disgwyl yw y bydd elfennau'r cytundeb yn dod i rym dros dro ar 1 Ionawr.
'Teg a chytbwys'
Mewn cynhadledd newyddion brynhawn Iau, dywedodd Llywydd yr UE, Ursula von der Leyen fod hwn "yn gytundeb da".
"Mae'n gytundeb teg... mae'n gytundeb cytbwys. Dyma'r peth iawn i wneud i'r ddwy ochr," ychwanegodd.
Mae prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier wedi rhoi teyrnged i'r holl wleidyddion, dinasyddion a newyddiadurwyr am eu rhan yn y trafodaethau.
Ychwanegodd: "Mae heddiw'n ddiwrnod o ryddhad, ond gyda pheth tristwch wrth gymharu beth sydd o'n blaen o'i gymharu gyda beth sydd y tu cefn i ni."
Datganiad Llywodraeth y DU
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae popeth gafodd ei addo yn ystod refferendwm 2016 ac yn Etholiad Cyffredinol y llynedd wedi cael ei wireddu yn y cytundeb yma.
"Rydym wedi cymryd rheolaeth o'n harian, ffiniau, cyfreithiau, masnach a'n dyfroedd pysgota.
"Mae'r cytundeb masnach cyntaf yn seiliedig ar ddim cwotâu a dim taliadau 'tariff' ar nwyddau.
"Ni fyddwn yn dod o dan reolau'r UE, does dim rôl i Lys Cyfiawnder Ewrop ac mae ein holl feini prawf am ddychwelyd sofraniaeth wedi eu cyflawni, sy'n golygu y bydd gennym annibyniaeth economaidd a gwleidyddol llawn ar 1 Ionawr, 2021."
Daeth cadarnhad fod y DU wedi dewis peidio parhau i fod yn rhan o gynllun Erasmus, lle mae myfyrwyr o'r DU yn medru mynd i astudio yng ngwledydd Ewrop.
Bydd yr hawl i symud a gweithio yn rhydd rhwng gwledydd Ewrop hefyd yn dod i ben i drigolion y DU.
Ymateb llawn Prif Weinidog Cymru: 'Cytundeb tenau ac anodd'
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi croesawu'r ffaith bod y ddwy ochr wedi dod i ryw fath o gytundeb, ond mae'n rhybuddio bod y cytundeb hwnnw'n un "tenau".
"Mae Llywodraeth Cymru wedi hen ddadlau fod cytundeb yn well o lawer na dim cytundeb ac yn yr ystyr hwnnw rydym yn falch o weld cytundeb heddiw. Ond nid dyma'r cytundeb y cafodd ei addo i ni.
"Bydd yn dal yn gytundeb anodd i Gymru ond mae'n creu platfform y gallwn ddychwelyd ato i ddadlau dros welliannau yn y dyfodol."
"Mae busnesau nawr yn gwybod sail y termau masnachu ac mae sicrwydd yn bwysig iawn i'r byd busnes.
"Bydd rhan o'r sicrwydd hwnnw'n dal yn rhwystrau newydd i fasnachu nad ydym wedi'u gweld mewn llawer o flynyddoedd.
"Bydd pobl yn dal yn gorfod llenwi ffurflenni a ddim yn gallu masnachu yn y ffordd y maent wedi arfer masnachu, ond o leiaf rydym yn gwybod sut fydd pethau'n cael eu gwneud.
"Cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, bydd Cymru'n gweld gwahaniaeth. Ni fydd mor hawdd i deithio i Ewrop ag yr oedd. Ni fydd myfyrwyr Cymru â'r un mynediad i brifysgolion Ewrop ag y rydym wedi ei fwynhau.
"Felly, mae'n gytundeb, ond mae'n gytundeb tenau, cytundeb a fyddai'n well yn ôl yr addewid, ond mae'r cytundeb yma'n well na dim cytundeb o gwbl."
Ychwanegodd Mr Drakeford y bydd yn ysgrifennu at Lywydd Senedd Cymru ddydd Iau yn gofyn am ail-alw Aelodau nôl wythnos nesaf.
"Rwy'n meddwl bod hi'n bwysig iawn cyn i Seneddau San Steffan bleidleisio ar unrhyw gytundeb eu bod yn gwybod barn y llywodraeth ddatganoledig yma yng Nghymru," meddai.
"Rwy'n gobeithio erbyn dydd Mercher wythnos nesaf bydd y Senedd yn gallu ailymgynnull a bod y Senedd yn cael cyfle i drafod materion pwysig o bwys i bobl Cymru am flynyddoedd i ddod."
'Dyfodol disglair i Gymru'
Mae'n gytundeb, medd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart "sy'n dda i Gymru a gweddill y DU ac sy'n cyflawni canlyniad refferendwm 2016".
Dywedodd ei fod "yn rhoi'r mynediad sydd ei angen ar fusnesau Cymru i farchnad yr UE ac yn creu perthynas newydd rhwng y DU a'r UE yn seiliedig ar gydweithrediad cyfeillgar a chydradd"
Ychwanegodd: "Mae gan Gymru ddyfodol disglair y tu allan i'r UE ac mae'r cyfleoedd newydd y mae'r fargen hon yn eu cynnig i bobl a busnesau yn deillio o le annatod Cymru yn y Deyrnas Unedig."
Roedd materion amaethyddol yn un o'r meini tramgwydd wrth geisio dod i gytundeb.
Mae Hefin Jones yn ffermwr cig eidion o Lanarthne yn Sir Gaerfyrddin. Roedd ganddo groeso gofalus i'r newyddion am gytundeb masnach.
"Y teimlad cyntaf yw rhyddhad, wrth reswm, na fyddwn ni yn masnachu o dan delerau Sefydliad Masnach y Byd, bod yna gynnyrch yn cael ei werthu heb dollau.
"Fydde hi ddim yn sefyllfa ddelfrydol i'r naill ochr na'r llall pe bai'n hynny digwydd. Ond peidied neb â meddwl bod ni nôl i normal.
"Mae'r berthynas newydd yn mynd i orfod esblygu dros amser. Mi fydd yna gostau ychwanegol, mi fydd yna wiriadau yn y porthladd.
"Mae hynny i gyd yn mynd i gael effaith, ond dwi'n croesawu'r newydd yn fawr bod yna gytundeb masnach.
"Os fydd yna gytundebau pellach yn rhyngwladol ni'n gobeithio y bydd llywodraeth Prydain yn cefnogi amaeth yn y modd mwyaf addas."
Dadansoddiad ein gohebydd amgylchedd Steffan Messenger
I ffermwyr Cymru mae'n siŵr taw ryddhad fydd yr ymateb cynta'.
Roedd eu diwydiant nhw - fel y mae gweinidogion Llywodraeth y DU eu hunain wedi cydnabod - yn arbennig o fregus petai'r trafodaethau masnach wedi methu.
Cofiwch fod Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhagweld "aflonyddwch sifil" yng nghefn gwlad, a Hybu Cig Cymru wedi dweud y byddai'r effaith o adael heb gytundeb "oddi ar y Raddfa Richter" gan arwain at "chwalfa".
Mae'r cytundeb yma'n golygu na fydd allforion o gig oen ac eidion eiconig Cymru - yn ogystal â chynnyrch amaethyddol eraill - yn wynebu tollau uchel.
Ond fe fydd gwaith papur ychwanegol a rhai profion wrth groesi'r ffin o Ionawr 1af ymlaen - newid fydd yn gostus a thrafferthus medd arweinwyr yr undebau amaeth.
Dadlau y bydd cyfleoedd newydd yn deillio maes o law i fasnachu cynnyrch Cymreig ar draws y byd, mae gweinidogion yn San Steffan.
I bysgotwyr Cymru - fflyd o gychod bach sy'n arbenigo mewn cimychiaid, crancod, gwichied môr a chregyn gleision - bydd 'na ryddhad hefyd na fyddan nhw'n wynebu tollau.
Mae dros 90% o'r hyn y maen nhw'n ei ddal yn cael ei allforio i'r cyfandir ar hyn o bryd.
Ond fe fydd unrhyw gyfaddawdi dros hawliau pysgota yn y trafodaethau yn siŵr o ennyn ymateb - gan eu bod nhw wedi gobeithio y byddai Brexit yn arwain at gyfleoedd i dyfu'r diwydiant ehangach - y tu hwnt i bysgod cregyn - yng Nghymru.
Ymateb gwleidyddol
Dywedodd AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts fod y cytundeb yn dra gwahanol i'r hyn gafodd ei addo gan refferendwm 2016 a gan y Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 2019.
"Dywedwyd wrth Gymru y byddem yn parhau i gael yr un buddion yn union, na fyddem yn derbyn ceiniog yn llai, ac y byddai ein ffermwyr yn gallu gwerthu eu cynnyrch i weddill Ewrop fel ag o'r blaen," meddai.
"Mae'r Ceidwadwyr wedi torri eu haddewidion i Gymru.
"Bydd y cytundeb hwn yn gosod costau newydd sylweddol a biwrocratiaeth gymhleth ar fusnesau Cymru. Bydd yn bygwth dyfodol ein pobl ifanc ac yn dileu llawer o'n hawliau fel dinasyddion.
"Mae'n warthus bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu achosi aflonyddwch pellach i bobl a busnesau pan fydd ein heconomi a'n cymdeithas eisoes yn ei chael hi'n anodd oherwydd y pandemig.
"Serch hynny, mae cytundeb yn rhoi'r sefydlogrwydd lleiaf posib ar ôl cymaint o flynyddoedd o gecru. Byddai gadael heb gytundeb wedi bod yn drychinebus i Gymru, felly bydd newyddion bod cytundeb wedi'i sicrhau yn rhyddhad i lawer."
'Hwb i'r economi'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies ei fod wrth ei fodd bod llywodraeth y DU wedi sicrhau cytundeb.
Ychwanegodd: "Yn allweddol, mae hyn yn golygu y gallwn ychwanegu'r Undeb Ewropeaidd i'r rhestr o 60 o gytundebau masnach sydd wedi eu sicrhau o gwmpas y byd wrth i ni fynd i mewn i'r flwyddyn newydd, fel y gall y DU ddechrau'r daith newydd yma fel cenedl annibynnol gref.
"Does gen i ddim amheuaeth, er gwaetha' heriau Covid-19, y gall pobl a busnesau fanteisio ar y cyfleoedd y mae'r cytundeb yma'n cynnig... yn enwedig yng Nghymru. Bydd yn helpu busnesau Cymru i dyfu ac yn rhoi hwb i economi Cymru."
Ychwanegodd David Davies, AS Ceidwadol, ei fod "wrth fy modd gyda'r cytundeb".
Ymateb CBI
Dywedodd Tony Danket, Cyfarwyddwr Cyffredinol CBI: "Bydd hyn yn dod fel rhyddhad enfawr i fusnesau Prydeinig mewn adeg pan mae gwytnwch yn isel. Ond yn dod mor hwyr yn y dydd, mae'n hanfodol bod y ddwy ochr yn cymryd camau i barhau i fasnachu a chadw gwasanaethau'n mynd wrth i gwmnïau addasu.
"Bydd cwmnïau'n astudio'r manylion yn syth, pan y gallan nhw, er mwyn deall yr arwyddocâd i'w cwmnïau, cwsmeriaid a'u cleientiaid, ond mae angen cyfarwyddyd ar gyfer pob sector o'r llywodraeth.
"O flaen popeth, mae angen cadarnhad cyflym o gyfnod i esmwythau ar bopeth o ddata i reolau tarddiad ac rydyn ni angen sicrhau bod nwyddau'n parhau i symud ar draws yr ffiniau.
"Mae gan y DU dyfodol disglair y tu allan yr Undeb Ewropeaidd a gyda chytundeb wedi'i sicrhau gallen ddechrau ar ein pennod newydd ar dir mwy cadarn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2020