Plaid: Methu cefnogi cytundeb 'sy'n waeth i Gymru'

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd eu bod wedi dod i gytundeb ar delerau Brexit, dywedodd Liz Saville Roberts, AS Plaid Cymru, na fyddai Plaid Cymru yn gallu cefnogi'r cytundeb.

"Fedrwn ni ddim cefnogi cytundeb sy'n cynnig rhywbeth sy'n waeth i Gymru, na'r hyn sy' gennym ni ar hyn o bryd."

Ond cydnabyddodd "bod yna rhyddhad bod ni ddim yn mynd allan heb gytundeb" a'i fod yn "bennod newydd" yn hanes Cymru.