'Angen mwy o gynrychiolaeth wleidyddol i bobl BAME'

Mewn trafodaeth am hiliaeth yng Nghymru ar raglen Dros Frecwast fore Iau, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles nad oes gan bobl o gefndiroedd ethnig ddigon o lais yn y sefydliadau sy'n gwneud penderfyniadau.

Daw wedi i ddyn o Aberystwyth sy'n briod â gwraig o Wlad Thai ddweud bod angen sgwrs genedlaethol i drafod problem "hiliaeth yn ein cymunedau ac yn ein cymunedau Cymraeg ni".

Dywedodd Mr Miles ar y rhaglen: "Be sydd yn gwbl sicr yw nad oes gan bobl o gefndir BAME ddigon o lais yn y sefydliadau sydd ohoni sy'n gwneud y penderfyniadau sy'n effeithio ar ein bywydau ni i gyd."

Ond fe ychwanegodd nad cyfrifoldeb ar lywodraeth yn unig oedd hyn, ond i bob rhan o gymdeithas a phob elfen o fywyd cyhoeddus.