'Mae angen trafod hiliaeth mewn cymunedau Cymraeg'

  • Cyhoeddwyd
Rhodri a NoiFfynhonnell y llun, Rhodri Francis
Disgrifiad o’r llun,

Rhodri Francis a'i wraig, Noi

Mae dyn o Aberystwyth sy'n briod â gwraig o Wlad Thai yn dweud bod angen sgwrs genedlaethol i drafod problem "hiliaeth yn ein cymunedau ac yn ein cymunedau Cymraeg ni".

Dywedodd Rhodri Francis wrth raglen Dros Frecwast bod ei wraig wedi cael profiadau hiliol, yn enwedig ar ôl i'r pandemig ddechrau.

Mae elusen Chineaidd yng Nghymru hefyd wedi dweud eu bod nhw wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o gasineb hiliol at bobl o dras Asiaidd ers dechrau'r pandemig, ac maen nhw'n gweld cynnydd yn nifer y bobl Chineaidd sy'n gyndyn i adael eu tai oherwydd hyn.

Dywedodd Mr Francis: "Mae'n amser siarad allan. Ma' fe'n rhywbeth dwi'n teimlo'n anghyffyrddus ymbiti, ac mae'n rhywbeth sy' wedi bod ar fy meddwl i a meddwl fy 'ngwraig i ers blynyddoedd maith.

"'Dan ni ddim isie 'neud hyn, ond mae'n rhaid i ni 'neud e er mwyn stopio cancr hiliaeth o fewn ein cymunede ni, a hefyd o fewn ein cymunede Cymraeg ni.

"Dwi'n gwybod trwy ddweud hynny fydd hwnna'n dod â sioc a bydd yn dod falle â controversy, ond mae'n rhaid i ni fod yn onest ac mae'n rhaid i ni gael y sgyrsie anghyfforddus yma er mwyn trafod beth sydd wir yn digwydd o fewn ein cymunede ni."

'Ddim isie creu ffys'

Mae Mr Francis yn dweud mai digon yw digon a'i fod yn teimlo bod rhaid siarad yn gyhoeddus ar ôl i'w wraig Noi, sydd o Wlad Thai, gael profiadau hiliol, a dywedodd fod pethau wedi gwaethygu yn y flwyddyn ddiwethaf ers dechrau'r pandemig.

"Ma' Covid ma' yn anffodus, ni wedi gweld y gwaetha' mewn pobl - dim pawb, lleiafrif - ond gyda hiliaeth," meddai.

"Pobl yn meddwl bod Covid yn dod o bobl Chinese, pobl o Asia, a ma' ngwraig i'n cael ei ymosod yn hiliol, a geirie hiliol tuag ati pan mae hi'n cerdded lawr Poundland.

"Un o'r rhesyme o'dd fi a 'ngwraig a lot o bobl du ac Asiaidd eraill ddim wedi dweud dim byd ers blynyddoedd yw oherwydd o'n i ddim isie creu ffys.

"A dwi'n euog o hynny, a dwi 'di teimlo'n euog am hynny ers blynyddoedd - wel, ers y flwyddyn ddiwetha' ma' yn enwedig."

Disgrifiad,

Dywedodd Jeremy Miles bod angen i bobl BAME gael mwy o lais mewn sefydliadau gwleidyddol

Ar Dros Frecwast fore Iau, bu'r cwnsler cyffredinol Jeremy Miles yn ymateb i sylwadau Mr Francis.

Dywedodd: "Mae yma dystiolaeth gignoeth sy'n taflu goleuni ar fater difrifol iawn. Does dim lle yng Nghymru i agweddau fel hyn, ac mae'n gwbl annerbyniol fod pethau fel hyn yn digwydd.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio gyda grwpiau BAME ar draws Cymru ac fe fydd ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi o fewn yr wythnosau nesaf.

"Does gan grwpiau BAME ddim digon o lais, ac mae hynny'n rhywbeth i ni gyd wneud rhywbeth yn ei gylch.

"Yn sicr mae angen y drafodaeth genedlaethol y bu Mr Francis yn sôn amdano fe."

'Gwybodaeth gamarweiniol'

Mae elusen Chineaid yng Nghymru hefyd wedi gweld cynnydd mewn troseddau casineb ers y pandemig.

Dywedodd Shirley Au Yeung, cadeirydd Cymdeithas Chineaidd yng Nghymru, wrth Dros Frecwast: "Ry'n ni'n gwneud ein gorau i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb ac annog cymunedau i adrodd amdanyn nhw. Ond dyw'r sefyllfa ddim yn gwella.

"Mae gormod o wybodaeth gamarweiniol a gwahaniaethau diwylliannol.

"O edrych ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol, mae nifer cynyddol o drigolion Chineaidd yn dweud nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel yn mynd allan bellach."

Pynciau cysylltiedig