Tafwyl am 'adeiladu ar lwyddiant y llynedd'

Gyda chyfyngiadau coronafeirws yn dal mewn grym, mae Tafwyl wedi penderfynu cynnal gŵyl rithiol eto yn 2021 yn dilyn llwyddiant y llynedd.

Bydd Tafwyl 2021 yn gyfuniad o ddigwyddiadau fydd yn cael eu ffrydio ar-lein, gyda cherddoriaeth yn fyw o Gastell Caerdydd yn cyrraedd cartrefi ar draws y byd.

Manon Rees O'Brien fu'n sôn am arlwy Tafwyl 2021 ar Dros Frecwast fore Iau, gan ddweud eu bod am "adeiladu ar y llwyddiant o dorri tir newydd y llynedd".