Tafwyl yn cael ei chynnal yn ddigidol eto eleni

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
TafwylFfynhonnell y llun, Tafwyl

Bydd gŵyl Tafwyl yn cael ei chynnal yn ddigidol unwaith eto eleni ar ddydd Sadwrn, 15 Mai.

Yn 2020, roedd Tafwyl ymysg y cyntaf o wyliau'r DU i ffrydio o leoliad yr ŵyl, sef Castell Caerdydd.

Fe fydd yr ŵyl rithiol yn 2021 yn gyfuniad o gerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, trafodaethau, ynghyd â gweithgareddau i blant.

Bydd y gerddoriaeth yn dod yn fyw unwaith eto o gartref yr ŵyl, Castell Caerdydd.

Disgrifiad,

Dywedodd Manon Rees O'Brien mai'r gobaith ydy "adeiladu ar y llwyddiant o dorri tir newydd y llynedd"

Wrth i Tafwyl ddathlu ei phen-blwydd yn 15 oed eleni, y bwriad, yn ôl y trefnwyr, yw adeiladu ar y profiadau newydd ddaeth yn sgil yr ŵyl rithiol llynedd a throi'r her yn gyfle i ddenu cynulleidfaoedd newydd i brofi celfyddyd a diwylliant Cymreig.

Dywedodd Manon Rees-O'Brien, prif weithredwr Menter Caerdydd - trefnwyr yr ŵyl - ei bod yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn "codi calon ac ysbryd artistiaid a gwylwyr".

"Bydd yn gyfle gwych i Menter Caerdydd barhau i godi proffil y Gymraeg mewn digwyddiad byw ac arloesol, a chyflwyno'r iaith a'r diwylliant i gynulleidfa ehangach," meddai.

Bydd gweithgareddau holl lwyfannau'r ŵyl yn cael eu ffrydio'n fyw o Gastell Caerdydd trwy gyfrwng platfform digidol AM trwy ddydd Sadwrn 15 Mai.

Ffynhonnell y llun, Tafwyl
Disgrifiad o’r llun,

Huw Stephens yn cyflwyno rhan o Tafwyl y llynedd

Bydd uchafbwyntiau'r ŵyl hefyd ar gael i'w gwylio mewn rhaglen awr o hyd ar S4C, gydag ambell set ecsgliwsif ar blatfform digidol Lŵp yn ogystal.

Yn ôl y trefnwyr, llwyddodd Tafwyl 2020 i ddenu cynulleidfa fyd-eang, gyda thros 25,000 yn mwynhau'r arlwy o ddiogelwch eu tai.

Gyda chynulleidfa gref yng Nghaerdydd a ledled Cymru, cafwyd nifer yn ffrydio'r ŵyl o'r UDA, Japan, Yr Iseldiroedd, Sbaen a Ffrainc, ymysg gwledydd eraill.

Yn ogystal â'r gerddoriaeth fyw, bydd nifer o elfennau arferol Tafwyl yn cael eu darparu hefyd, gan gynnwys sgyrsiau, sesiynau llenyddol ac ymarferion lles.

Ffynhonnell y llun, Tafwyl
Disgrifiad o’r llun,

Hana Lili yn perfformio yn ystod Tafwyl 2020

Bu dros 50 o fasnachwyr yn rhan o farchnad ddigidol llynedd, gyda gwariant o dros £15,000 mewn un prynhawn, a bydd y farchnad ddigidol yn ôl eleni.

Bydd gan ysgolion Caerdydd lwyfan digidol i arddangos eu talent hwythau, a rhaglen o weithgareddau a gweithdai amrywiol i blant.

Rhan enfawr o apêl Tafwyl bob blwyddyn yw'r bwyd a diod, ac ni fydd gŵyl ddigidol yn newid hynny.

Bydd yr ŵyl yn partneru gydag amrywiaeth o arlwywyr lleol gyda chynigion Tafwyl arbennig a gwasanaethau pryd ar glyd i helpu i ddod â blas o'r 'ŵyl go-iawn' i gartrefi'r gwylwyr.

Ffynhonnell y llun, Tafwyl
Disgrifiad o’r llun,

Adwaith yn perfformio ym mhorth Castell Caerdydd yn 2020

Mae Menter Caerdydd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a Chyngor Caerdydd i gynnal Tafwyl 2021.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg: "Mae'n newyddion gwych ein bod unwaith eto yn gallu cyd-weithio i adeiladu ar lwyddiant Tafwyl Digidol llynedd.

"Mae'r ymateb arloesol wrth rannu, dathlu a dod a phobl o'r diwydiannau creadigol a digwyddiadau ynghyd, wedi bod yn llwyddiant aruthrol - ac mae wedi darparu gobaith ac adloniant yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Bydd hwn yn gyfle arbennig i ddod ag ychydig mwy o'r Gymraeg i'n cartrefi trwy'r ŵyl boblogaidd hon."