Sally Holland: Dim rheoliad ar ddysgu o adref yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn methu yn eu dyletswydd i amddiffyn plant sy'n cael eu haddysgu gartref, 10 mlynedd ers marwolaeth bachgen wyth oed, medd adroddiad.

Bu farw Dylan Seabridge o sgyrfi yn Sir Benfro yn 2011 ar ôl cyfnod o saith mlynedd pan na gafodd ei weld gan unrhyw wasanaethau.

Mae adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland yn dweud bod y llywodraeth "wedi methu ag ymateb yn ddigonol" i'w farwolaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cymryd y cyfrifoldeb i amddiffyn plant o'r fath yn "ddifrifol iawn", ond bod amgylchiadau wedi golygu bod oedi i'r gwaith sy'n cael ei wneud.

Dyma'r tro cyntaf i swyddfa'r Comisiynydd Plant ddefnyddio ei phwerau cyfreithiol i adolygu Llywodraeth Cymru.