Cwest bachgen: Marw o sgyrfi
- Cyhoeddwyd
Mae cwest i farwolaeth bachgen wyth oed wedi dod i'r casgliad ei fod wedi marw o'r sgyrfi.
Bu farw Dylan Mungo Seabridge, o Dolau, Eglwyswrw, yn fuan ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty ar 6 Rhagfyr 2011. Clywodd y cwest yn Aberdaugleddau ei fod wedi ei ruthro i'r ysbyty ar ôl i'w dad ffonio 999 wedi i'r bachgen gael ei daro yn wael.
Roedd y bachgen yn anymwybodol pan gyrhaeddodd parafeddygon, ac roedd ganddo anafiadau i'w goesau.
Clywodd y cwest fod ei rieni Glynn a Julie Seabridge heb alw am gymorth meddygol cyn y digwyddiad am eu bod yn credu fod y bachgen yn dioddef o boenau tyfu.
Diffyg fitamin C
Fe ddaeth patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Deryck Simon Jones, oedd yn gyfrifol am y post mortem ar Dylan, i'r casgliad ei fod wedi marw o achos diffyg fitamin C - diffyg sydd yn cael ei adnabod fel sgyrfi.
Dywedodd Katie Hanson ar ran Mr & Mrs Seabridge, fod yr Athro Joris Dlanghe, arbennigwr o Wlad Belg, yn cwestiynnu'r canfyddiad hwnnw.
Roedd yr Athro Joris Dlanghe o'r farn fod rhesymau eraill fel asid ffolig wedi chwarae ei ran yn y farwolaeth.
''Nid yw'r rhieni yn derbyn fod Dylan wedi marw o sgyrfi,'' meddai Katie Hanson.
Ond fe ddywedodd crwner Sir Benfro, Mark Layton, wrth y cwest fod marwolaeth Dylan wedi bod yn destun ymchwiliad troseddol manwl, ac felly roedd yn rhaid iddo ddod i ddyfarniad agored.
Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron ym mis Tachwedd nad oedd erlyn Glynn a Julie Seabridge o fudd i'r cyhoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2014