'Dwi'n gobeithio allwn ni gael partïon eto yn yr ardd'

Dim ond unwaith ers mis Medi y mae Osian, Deio a Gwenlli o Bowys wedi gallu gweld eu Nain, sy'n byw 40 milltir i ffwrdd yng Ngheredigion.

Ond o'r penwythnos yma ymlaen bydd cyfyngiadau teithio Cymru'n codi unwaith eto, gan alluogi teulu a ffrindiau i deithio ymhellach i gyfarfod yn yr awyr agored.