Rheol 'aros yn lleol' yn dod i ben ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae'r rheol sy'n gofyn i bobl Cymru aros yn lleol yn cael ei chodi yn ôl y disgwyl ddydd Sadwrn.
Mae Llywodraeth Cymru'n bwrw ymlaen i godi cyfyngiadau teithio sydd mewn grym ers dechrau'r cyfnod clo diweddaraf ym mis Rhagfyr.
Ond bydd gwaharddiad am bythefnos ar deithiau i Gymru o wledydd eraill y DU nad sy'n hanfodol.
Ac mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi gofyn i bobl "feddwl am ble maen nhw'n mynd" ac osgoi llefydd prysur os ydyn nhw'n teithio'n bellach y penwythnos hwn.
Mwy yn cael cyfarfod
Bydd busnesau lletygarwch hunangynhwysol, sy'n cynnwys rhai gwestai a bythynnod, hefyd yn cael ailagor ddydd Sadwrn.
Golyga'r newidiadau mai Cymru fydd gwlad gyntaf y DU i ganiatáu teithio heb rwystrau unwaith yn rhagor i unrhyw le o fewn ei ffiniau.
Dywedodd Mr Drakeford, bod modd llacio mwy o'r cyfyngiadau am fod "sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau'n sefydlog".
Bydd rheolau ynghylch nifer y bobl sy'n cael cyfarfod ac ymarfer corff yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, yn cael eu llacio.
O ddydd Sadwrn bydd hyd at chwech o bobl, yn hytrach na phedwar, o ddwy aelwyd wahanol yn cael cwrdd. Does dim rhaid cyfri plant dan 11 oed o fewn y cyfanswm hwnnw.
Bydd gweithgareddau awyr agored a chwaraeon sydd wedi eu trefnu ar gyfer plant a phobl ifanc dan 18 oed yn cael ailddechrau.
Mae llyfrgelloedd ac archifdai yn cael ailagor, a bydd rhai ardaloedd awyr agored yn agor gyda chyfyngiadau a rhai safleoedd a gerddi hanesyddol.
'Y sefyllfa'n parhau'n sefydlog'
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Mae'r llacio pellach hwn yn rhan o'n dull gofalus a graddol o ddatgloi'r cyfyngiadau a galluogi pobl a busnesau i ailddechrau eu gweithgareddau yn y ffordd fwyaf diogel posibl.
"Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau'n sefydlog; mae ein rhaglen frechu anhygoel yn mynd o nerth i nerth - mae'n bosibl gwneud y newidiadau hyn."
Dywed y llywodraeth bod Cymru'n symud allan o rybudd lefel pedwar, ac "yn dechrau symud i lefel tri".
Bydd gweinidogion "yn ystyried mesurau rhybudd lefel tri pellach yn yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau".
Roedd y rheol 'aros yn lleol' mewn grym am bythefnos, gan ddisodli'r rheol 'aros adref'.
Bydd yr hawl i deithio i Gymru gyfan yn parhau tan 12 Ebrill i ddechrau, yn amodol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd. Bydd rhaid cael esgus rhesymol, fel mynd i'r gwaith, er mwyn teithio i neu o Gymru.
Mae'r cyfyngiadau presennol ar deithio rhyngwladol ar gyfer gwyliau yn parhau.
Bydd llety gwyliau hunangynhwysol, gan gynnwys gwestai â chyfleusterau en-suite a gwasanaeth ystafell, yn gallu ailagor i bobl o'r un aelwyd neu swigod cymorth.
Croeso gan rai
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ei bod hi'n anodd taro'r cydbwysedd iawn wrth lacio'r rheolau.
"Ond un lle dwi'n meddwl nad yw Llywodraeth Cymru wedi'i gael yn gywir yw rhoi digon o rybudd o flaen llaw i fusnesau [am bryd allen nhw ailagor]," meddai.
Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds ei bod hi'n "croesawu" cyhoeddiad y llywodraeth.
"Mae gan y cyhoedd ddyletswydd i ddilyn y rheolau yma gan fod y feirws dal yn cylchdroi."
Ond mae'r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi dweud bod angen cynllun cliriach ar gyfer llacio'r cyfyngiadau.
"Rydyn ni wedi bod mewn cyfnod clo yn hirach nag unrhyw le arall ym Mhrydain, ond rydyn ni'n mynd i'r cyfeiriad iawn diolch i waith caled pobl a chymunedau ar draws Cymru," meddai Andrew RT Davies.
"Mae hwn yn gam positif i'r cyfeiriad cywir ond mae teuluoedd, gweithwyr a busnesau dal eisiau mwy o fanylion gan weinidogion Llafur."
Ymholiadau'n barod
Mae menter gymunedol Llety Arall yn darparu lle i aros yng Nghaernarfon ar gyfer grwpiau bychain, teuluoedd, oedolion a phobl ifanc. Dydyn nhw heb fod yn derbyn archebion ond maen nhw wedi derbyn ymholiadau gan bobl sy'n gallu teithio yno o rannau eraill o Gymru.
"'Dan ni 'di bod yn gofyn i bobol i ddatgan diddordeb," meddai Selwyn Jones o bwyllgor y fenter. "Ma' ginnon ni teulu o bedwar sydd yn awyddus i ddod wythnos nesa' a wedyn teulu arall sy'n awyddus i ddod at y penwythnos."
Pwysleisiodd eu bod "ond isio agor os ydi o'n saff".
Ond mae mwyafrif llethol busnesau twristiaeth yn ddibynnol ar bobl o rannau eraill o'r DU a fyddan nhw ddim yn cael dod i Gymru am bron dair wythnos arall.
"Yn amlwg 'dan ni'n edrych ymlaen yn fawr at ailagor," meddai Beth Hughes o gwmni Lyons, sy'n rhedeg 13 o safleoedd gwyliau yng Nghymru.
"Fydd o'n golygu gymaint, nid yn unig i ni fel cwmni sydd wedi cael blwyddyn eitha' horrible... ond fydd o'n golygu lot i'n perchnogion [carafanau] hefyd."
Adolygiad nesaf
Bydd Llywodraeth Cymru'n cynnal eu hadolygiad nesaf o'r rheolau wythnos nesaf, gan ystyried rhagor o newidiadau o 12 Ebrill ymlaen, os fydd y sefyllfa'n aros yn sefydlog:
caniatáu i holl ddisgyblion a myfyrwyr Cymru ddychwelyd i ysgolion, colegau a phrifysgolion;
siopau a gwasanaethau cyswllt agos, fel salonau harddwch, i ailagor; a
llacio'r cyfyngiad dros dro o ardal deithio ledled Cymru.
Ni fydd penderfyniad ynghylch caniatáu ailagor mannau awyr agored tafarndai, bwytai a chaffis tan o leiaf 22 Ebrill.
Wrth siarad ar BBC Radio Wales fore Gwener, dywedodd Mr Drakeford hefyd nad oedd yn diystyru cyflwyno 'pasbort brechlyn' yn y dyfodol ar gyfer tafarndai yng Nghymru.
"Dwi'n meddwl bod pasbort brechlyn ar gyfer teithio dramor yn rhywbeth sy'n debygol iawn o ddigwydd achos bydd gwledydd eraill yn mynnu eu cael," meddai.
"O ran cyflwyno'r syniad fan hyn, dyw e ddim mod i ddim yn gweld y achos positif dros wneud a dwi eisiau edrych mewn i hynny, ond byddai angen gweithio drwy lawer o fanylion."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021