Dod yn ddinesydd Prydeinig trwy gyfrwng y Gymraeg
Ydych chi'n cofio Rodolfo Piskorski - y person cyntaf erioed i sefyll prawf dinasyddiaeth y DU drwy gyfrwng y Gymraeg?
Yn wreiddiol o Frasil, daeth Rodolfo i Gaerdydd yn 2013 i astudio yn y brifysgol cyn ymgartrefu yng Nghymru a dysgu mwy am ei hiaith a'i diwylliant.
Ddydd Iau, fe ddaeth Rodolfo'n ddinesydd Prydeinig yn swyddogol, gan dyngu llw yn Gymraeg hefyd.
"Mae'n bwysig achos Cymru oedd fy ffordd i fod yn Brydeinig", meddai ar ôl y seremoni.