Owain Fôn a'i baentiad i ddathlu 100fed cap Chris Gunter

Cafodd golwr Cymru, Owain Fôn Williams ei gomisiynu'n ddiweddar i greu paentiad arbennig i ddathlu 100fed cap rhyngwladol i'w gyd-chwaraewr Chris Gunter.

Fe enillodd Gunter ei 100fed cap yn y fuddugoliaeth dros Mecsico yr wythnos hon - y cyntaf o garfan y dynion i gyrraedd y trothwy.

Yn ogystal â serennu rhwng y pyst mae Williams hefyd yn artist yn ei amser sbâr, felly gofynnodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru iddo greu'r campwaith i nodi'r garreg filltir.

Mae'r llun yn dangos Chris Gunter yn yn codi ei law i'w ên - golygfa gyfarwydd i gefnogwyr Cymru o Euro 2016 pan gododd y tîm ysbryd y genedl gyda'u perfformiadau.