Gem gyfeillgar: Cymru 1-0 Mecsico
- Cyhoeddwyd
Ar achlysur 100fed cap Chris Gunter cafodd Cymru fuddugoliaeth deilwng mewn gêm gyfeillgar gyda Mecsico.
Gan orffwys nifer fawr o'u prif ddetholion, cyn gêm ragbrofol Cwpan y Byd ddydd Mawrth yn erbyn y Weriniaeth Tsiec, fe darodd Cymru gôl fuddugol gynnar diolch i Kieffer Moore.
Roedd Mecsico yn rheoli'r gêm am gyfnodau mawr ond fe fethon nhw a chreu llawer o gyfleoedd.
Daeth y cyfle gorau i'r ymwelwyr i Hirving Lozano yn yr ail hanner ond cafodd ei arbed gan Wayne Hennessey.
O ystyried pa mor arbrofol a dibrofiad oedd y Cymry yn yr un ar ddeg gychwynnodd y gêm, roedd hwn yn ganlyniad clodwiw yn erbyn tîm cryf o Fecsico, sydd yn nawfed yn y byd.
Ac yn fwy na hynny, roedd o leiaf yn rhyw fath o deyrnged i Gunter, na allai ddathlu ei garreg filltir gyda'i gefnogwyr yn stadiwm wag Dinas Caerdydd.
Y chwaraewr 31 oed yw'r chwaraewr gwrywaidd cyntaf i ennill 100 o gapiau i Gymru .
Efallai mai'r agwedd fwyaf pleserus ar berfformiad Cymru oedd eu gwytnwch amddiffynnol wrth gadw gwrthwynebwyr rhag sgorio, a dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gael eu trechu ers 2019 pan gollon nhw yn erbyn Ariannin.
Bydd y Weriniaeth Siec yn teithio i Gaerdydd ar gyfer gêm ragbrofol nos Fawrth, wrth i Gymru geisio sicrhau eu pwyntiau cyntaf yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2022.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021