'Barod iawn i gydnabod fod angen gwella ymhellach'
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys wedi amddiffyn y llu, wedi i adroddiad rybuddio eu bod wedi methu â chofnodi miloedd o droseddau.
Yn ôl y corff sy'n goruchwylio gwaith yr heddlu, mae'r ffaith mai dim ond 87.6% o droseddau oedd yn cael eu cofnodi yn fethiant sylweddol.
Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi (HMIC) yn amcangyfrif na chafodd 4,400 o droseddau eu cofnodi, ddwy flynedd a hanner ar ôl gorchymyn y llu i wella eu perfformiad wedi i arolygwyr ddod i gasgliadau tebyg.
Dywed Dafydd Llywelyn, a gafodd ei ailethol yn gomisiynydd heddlu'r rhanbarth ddydd Sul, ei fod wedi "cael sicrwydd" fod dioddefwyr trosedd yn cael eu diogelu yn y mwyafrif helaeth o achosion er gwaetha'r adroddiad diweddaraf.
Fe gafodd ei holi gan Kate Crockett ar raglen Dros Frecwast.