Miloedd o droseddau heb eu cofnodi gan Heddlu Dyfed-Powys

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn, yn amddiffyn perfformiad y llu

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys wedi amddiffyn ei lu ar ôl i adroddiad ganfod ei fod unwaith eto wedi methu â chofnodi miloedd o droseddau.

Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi cael gorchymyn ddwy flynedd a hanner yn ôl i wella eu perfformiad.

Fe wnaeth Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi (HMIC) gyhoeddi rhybudd "achos o bryder" ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, ar ôl dod i'r casgliad mai dim ond 87.6% o droseddau oedd yn cael eu cofnodi.

Ond dywedodd Dafydd Llywelyn ei fod wedi "cael sicrwydd" fod dioddefwyr trosedd yn cael eu diogelu er gwaetha'r adroddiad diweddaraf.

Fe wnaeth yr arolygwyr amcangyfrif nad chafodd 4,400 o droseddau eu cofnodi, gan gynnwys tua 2,400 o droseddau trais, a thrais yn y cartref.

Fe ddaeth yr arolygwyr i gasgliadau tebyg yn 2018.

Cafodd Dafydd Llywelyn ei ailethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys ddydd Sul.

Dywedodd Mr Llywelyn fod uwch swyddogion yn yr heddlu wedi dweud wrtho fod gwelliannau yn mynd yn eu blaen.

"Beth sydd yn siomedig yw nad yw hynny yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth arolygwyr amcangyfrif na chafodd 4,400 o droseddau eu cofnodi

Honnodd fod yr arolygwyr wedi cymryd sampl o tua 600 o achosion dros gyfnod o dri mis.

"O'r rhain roedd rhwng 60-70 o droseddau ddim wedi eu cofnodi, mae hynny'n anffodus, ac fe ddylai pob trosedd gael ei chofnodi, rwy'n llawn dderbyn hynny," meddai.

"Beth ry' ni'n sôn am yw diffyg cofnodi o 'droseddau o fewn troseddau' - lle mae yna sawl trosedd mewn digwyddiad, lle mae nifer o honiadau yn cael eu gwneud."

Dywedodd o'r 20 o ddigwyddiadau yn ymwneud â thrais yn y cartref bod 15 wedi eu nodi ac roedd dioddefwyr wedi cael eu hasesu'n llawn, ac wedi eu diogelu.

"Rwy'n parhau i fod â chonsyrn am y pump na chafodd asesiad risg - oherwydd dyna fy swydd fel Comisiynydd, i fod yn bencampwr o ran y dioddefwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Charlie Armstrong ei bod yn hyderus fod y llu yn cymryd camau i wella eu perfformiad

Dywedodd Charlie Armstrong o Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi y bydd adroddiad llawn ar Heddlu Dyfed-Powys yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref. Ond gwnaed penderfyniad i gyhoeddi rhybudd "achos pryder" nawr.

"Rydym o'r farn fod yna fethiant sylweddol yn nhermau lle mae'r llu yn cofnodi troseddau," meddai

"Ond ni fyddwn am ddweud hynny heb gydnabod fod y llu wedi cymryd camau i wella sawl maes o'u perfformiad wrth gofnodi troseddau.

"Rydym yn hyderus y bydd y prif gwnstabl a'r tîm yn deall rhai o'r bylchau a'u bod yn mynd ati i'w cywiro."

Ychwanegodd: "Pan fod y llu wedi cofnodi trosedd, mae wedi cwblhau ymchwiliadau effeithiol yn y rhan fwyaf o achosion."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y llu eu bod yn derbyn pryderon ac argymhellion yr arolygwyr

Fe wnaeth BBC Cymru ofyn am gyfweliad gyda'r prif gwnstabl dros dro Claire Parmenter, ond cafodd y cais ei wrthod.

Gofynnwyd hefyd i wasanaeth cymorth dioddefwyr yn y rhanbarth a oeddynt yn ymwybodol o unrhyw effaith ar ddioddefwyr.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan swyddfa y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Roedd yn rhaid gwneud y cais am sylw drwy adran y wasg Heddlu Dyfed-Powys, ac mae'r BBC yn dal i aros am ymateb i'r cais.

'Camau i wella'

Mewn datganiad ar ran y prif gwnstabl dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Rydym yn derbyn pryderon ac argymhellion HMICFRS o ran dilysrwydd y data ar drosedd.

"Fel sefydliad rydym wedi ymrwymo yn gadarn i gefnogi dioddefwyr a'u rhoi yng nghanol popeth rydym yn ei wneud.

"Mae gan y llu gynlluniau i wella ei broses o gofnodi troseddau, ac rwy'n benderfynol o gael hyn yn gywir.

"Ers dyddiad yr arolygaeth, rydym wedi gweld gwelliant o ganlyniad i'r camau a wnaed, gan gyrraedd 100% wrth gofnodi troseddau ym maes ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer Chwefror a Mawrth 2021 sy'n gam positif."