Ffeithiau difyr am garfan Cymru yn Euro 2020

Dim ond tridiau sydd i fynd nes i Gymru ddechrau eu hymgyrch yn Euro 2020, ac mae'r cyffro'n dechrau codi!

Ble bynnag fyddwch chi'n gwylio, bydd y ffeithiau yma am y garfan yn siŵr o ddifyrru'r rheiny sydd gyda chi (wel, falle!).

Sawl un o'r garfan fyddwch chi'n clywed yn gwneud cyfweliadau Cymraeg dros yr wythnosau nesaf? Pam fod Gogs yn bâr o ddwylo saff? A phwy sydd â doppelgänger Almaeneg?

Iolo Cheung sy'n eich tywys drwy'r cyfan.